Rhifyn Chwefror Y Cymro

Newyddion

Tair ymgyrch wahanol – ond cysylltiedig – sy’n hawlio’r sylw yn rhifyn Chwefror Y Cymro.

Y gyntaf yw’r frwydr i atal enwau cynhenid Cymraeg rhag cael eu newid gan berchnogion newydd. Mae’r erthygl yn sôn am bosibilrwydd diogelu’r enwau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol. Mae mwy na 18,000 wedi’i arwyddo deiseb yn glaw am hynny, ac wedi cael ei thrafod gan y Senedd ar Ionawr 20.

Mae sylw hefyd i’r newyddion diweddaraf am argyfwng yr ail dai yng Nghymru. Er bod disgwyl mawr am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y sefyllfa, mae’r hyn a ddaeth wedi ei alw yn ‘ddi-sylwedd’ gan Gymdeithas yr Iaith sydd wedi dweud bod angen ‘gweithredu nawr yn hytrach na chynnal rhagor o drafodaethau di-bendraw’. A’r un peth yw barn Cylch yr Iaith ar y mater, sydd wedi nodi fod yn ymateb yn ‘hynod siomedig’.

Mae’r ymgyrch i wella ein cyfryngau Cymreig ac i’w gwneud yn fwy perthnasol i ni hefyd dan y chwyddwydr y mis hwn mewn erthygl gan Heledd Gwyndaf sydd yn dweud fod y gwaith ymarferol o wneud hynny yn mynd yn ei flaen yn gyflym tra bod rhai ym Mae Caerdydd yn dal i holi os mai dyma’r peth iawn i’w wneud yn y lle cyntaf. Meddai Heledd: “Ond un peth sydd yn hollol amlwg ac yn ddi-gwestiwn – i wireddu ein nod, dydy peidio datganoli darlledu ddim yn opsiwn.”

Mae’r colofnydd Esyllt Sears yn talu teyrnged bersonol i’r actores a’r awdures Mirain Llwyd Owen wrth sôn am gymaint o ddylanwad gafodd cymeriad cofiadwy Delyth Haf arni pan yn ferch.

Yn ôl Lyn Ebenezer yn ei golofn y mis yma cathod sy’n rheoli’r byd – a phwy fydd all ddadlau â hynny? A sôn am ei thrafferthion yn trio mynd nol i Sbaen yng nghanol pandemic mae Cadi Edwards.

A phwy sy’n cofio’r Eos yng Nglyn Ceiriog neu’r fwyell hynafol gafodd ei darganfod yn ymyl Llanuwchllyn? Mae hanes y ddau, a mwy, ar y dudalen o hen luniau.

Ac yn ôl yr arfer mae sylw i lyfrau newydd, moduro, garddio a cherddoriaeth.

Bydd Y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, nifer o siopau’r stryd fawr a garejis. ar draws Cymru. Neu i dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy glicio yma: ycymro.cymru/tanysgrifio neu gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.

Mae copi PDF digidol ar gael hefyd drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru neu ar safle PressReader.

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau