Fe fydd Y Cymro yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed flwyddyn nesaf – Y Cymro ‘presennol’ hynny yw… a gafodd ei sefydlu yng Nghroesoswallt yn ôl yn 1932 gan Rowland Thomas, gŵr uniaith Saesneg o sir Amwythig, pennaeth cwmni argraffu a chyhoeddi a enwyd ar y pryd yn Woodall Minshall Thomas.
Ond cyn hynny roedd Y Cymro wedi bod ar sawl ffurf.
Mae’n debyg bod y cyntaf oll yn cael ei olygu a’i argraffu gan Hugh Williams o’i swyddfa yn Union Street, Bangor rhwng 1848 ac 1850. Papur crefyddol eglwysig oedd hwn mwy na dim, roedd yn gyfuniad o erthyglau yn y Gymraeg a chasgliad o ddyfyniadau Saesneg. Roedd tudalen flaen yr un cyntaf yn cynnig cyflwyniad i’r papur ac yna cyfieithiad Saesneg o hwnnw ar yr ail dudalen – a’r cyfan mewn llythrennau microsgopig o fach!
Deunaw mis ar ôl ei sefydlu daeth y papur i ben, a’r golygydd yn datgan bod hynny: “oherwydd na fu’r anturiaeth hyd yma yn ynnillfawr”
Am gyfnod byr rhwng 1850 ac 1851 roedd Y Cymro hefyd yn cael ei gyhoeddi yn Llundain gan ŵr o’r enw John James a aned yn Llanymawddwy. Aeth i weithio yn Llundain a dechreuodd gyhoeddi papur, a oedd fel yr un cynt, yn eglwysig ei naws. Meddai’r awdur Robin Jones yn ei lyfr gwych am hanes Y Cymro: “Ar un ystyr, fe wnaeth les mawr i’r Cymro fynd allan o Gymru am ychydig fisoedd. O leiaf, tra bu yno, diflannodd y dyfyniadau Saesneg oddi ar y dudalen flaen, ac yn eu lle daeth llond ceg o Gymraeg – ‘Undeb a brawdgarwch – Ofnwch Dduw, Anrhydeddwch y Brenin’.”
Y Cymro Treffynnon oedd y nesaf a gyhoeddwyd. Rhwng 1851 ac 1860 bu gŵr o’r enw William Morris, argraffydd cylchgronau eglwysig, yn ei argraffu o’i gartref yn High Street yn y dref. Roedd hwn ychydig yn fwy eang ei bwrpas a llythyrau yn cael eu cyhoeddi gan ddarllenwyr. Ond symudodd o Dreffynnon i Ddinbych tan 1866 pan ddaeth hwnnw hefyd i derfyn ei oes fer. Meddai’r golygydd yn un rhifyn yn 1863: “Y mae’n boenus gennym ganfod cynifer o lythyrau yn ‘Y Cymro’ oddi wrth y naill Eglwyswr at y llall. Da chwi, ohebwyr, tynnwch eich harfau allan yn erbyn y gelyn mawr, ac nid yn erbyn eich gilydd – brodyr ydych. Tŷ wedi ei ymrannu ni saif.”
Rhwng 1890 ac 1907 fe gyhoeddwyd Cymro Lerpwl dan reolaeth Issac Foulkes o Lanfwrog, Sir Ddinbych. Sefydlodd ei wasg ei hun yn Lerpwl a’i bwrpas oedd gwarchod yr iaith a llenyddiaeth Gymraeg. Yn Y Cymro hwn y dechreuodd Daniel Owen gyhoeddi penodau o Enoc Huws. Cyhoeddwyd y papur ar ddydd Iau am geiniog. Symudodd o’r ddinas i’r Wyddgrug tan 1909 gan fod yr argraffdy yn Lerpwl yn rhy fach.
Bum mlynedd wedi iddo gau daeth Cymro Dolgellau, a oedd i gystadlu â’r Goleuad. Dyn o’r enw Evan William Evans o Gae Einion, Dolgellau, oedd yn gyfrifol am y papur yma. Trefnwyd cystadleuaeth i enwi’r papur ar un a ddewiswyd oedd Y Cymro eto wrth gwrs! Meddai WJ Lunt yn rhifyn Gorffennaf 1914:
“Cymro annwyl cerdda’n wrol,
D’wed y gwir wrth Gymru lan.
Argyhoedda a cherydda,
Dysg i Gymru fyw yn dda.”
Ac yna ar Ragfyr 3 1932 sefydlwyd Y Cymro modern yng Nghroesoswallt. Bu’n rhan o’r un cwmni wedyn dros y blynyddoedd, nes symud i feddiant perchnogion Y Cambrian News, Papurau Newydd Tindle yn 2007 ac yna i feddiant y cwmni presennol, Cyfryngau Cymru Cyf, yn 2018.
Daw’r manylion o lyfr ‘Cofio’r Cymro – 75 mlynedd o gyhoeddi poblogaidd’ gan Robin Jones a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 2007.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol dr ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.