Adroddiad gan Tudur Huws Jones
Mae dros 13,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ‘cyllid teg’ i’r Llyfrgell Genedlaethol.
Mae’r ddeiseb yn rhan o ymgyrch ehangach i sicrhau rhagor o arian i’r llyfrgell. Eisoes, mae 30 o swyddi dan fygythiad yno, oherwydd toriadau.
Mae tua 100 o swyddi wedi diflannu o’r llyfrgell ers 2010, ac yn ôl undeb Prospect, byddai colli’r swyddi yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau sydd eisoes yn dioddef.
Mae’r ddeiseb, a drefnwyd gan Sue Jones-Davies, aelod o Gyngor Tref Aberystwyth a chyn-faer y dref, yn dweud: “Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o lyfrgelloedd mawr y byd, ystorfa i drysorau hanesyddol, artistig a deallusol Cymru.
“Heb ragor o gymorth gan Lywodraeth Cymru, bydd 30 o swyddi’n cael eu colli a gwasanaethau’n cael eu cwtogi’n ddifrifol.”
“Mae rhyddid, ffyniant a datblygiad cymdeithas ac unigolion yn werthoedd dynol sylfaenol, a geir gan ddinasyddion gwybodus sydd â mynediad diderfyn at syniadaeth, diwylliant a gwybodaeth.
“Er mwyn sicrhau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau cynhwysfawr i bawb, gofynnwn i Lywodraeth Cymru gynyddu ei chymorth ariannol, i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn borth gwybodaeth, gan sicrhau cyfleoedd dysgu gydol oes. Ni ellir disgwyl i lyfrgelloedd greu eu hincwm eu hunain yn yr un modd â busnesau.”
Ar wefan Nation.Cymru dywedodd cyn-bennaeth y llyfrgell, Andrew Green, nad oedd posib i’r llyfrgell barhau gyda thoriadau o’r fath.
“Rhwng 2008 a 2019 mae’r llyfrgell wedi colli 49% o’i hincwm.
“Mae nifer o weithgareddau eisoes wedi cael eu torri’n ôl yn ddifrifol ac mae gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl.
“Yn syml, os ydi’r toriadau newydd hyn yn mynd drwodd, a bod rhagor o doriadau’n dilyn, fedr y llyfrgell ddim goroesi fel sefydliad gweithredol. Mae unrhyw un sydd â diddordeb o ddifri yng Nghymru, ei hanes a’i diwylliant, yn dibynnu ar y llyfrgell am wybodaeth, ac fe fydd mynediad i’r wybodaeth honno yn fwy anodd yn y dyfodol.”
Cyhoeddwyd Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym Mawrth 2020. Mae’r adolygiad annibynnol – a gomisiynwyd gan y llywodraeth – yn dod i’r casgliad nad yw’r sefyllfa gyllidol bresennol yn gynaliadwy, a bod angen i’r llywodraeth ymateb.
Mae erthygl gan undeb Prospect, yn cymharu’r sefyllfa bresennol efo archwiliad gan y Swyddfa Gymreig, yn nyddiau Margaret Thatcher yn 1992.
Yn sgîl yr archwiliad hwnnw cafodd 30 o swyddi newydd eu creu yn y llyfrgell, meddai’r erthygl.
“Y tro hwn distawrwydd llethol a ddaeth o Lywodraeth Cymru…
“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei gorfodi i dorri’r gweithlu eto – 30 swydd arall, i lawr i 200 o aelodau staff – sydd, ynghyd â cholli swyddi blaenorol, yn mynd â’r Llyfrgell yn ôl i gyfnod Thatcher.
“Nid mater o golli swyddi mewn cyfnod economaidd anodd yn unig mo hwn, ond canlyniad i ddiffyg buddsoddiad hirdymor – dyma ymosodiad ar sector Treftadaeth Cymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Bydd y ddeiseb hon nawr yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar gyfer dadl yn y Senedd a bydd yn cael ystyriaeth lawn ac ymateb ffurfiol. Dyma’r broses arferol i’r Senedd ei hystyried o dan ei rheolau sefydlog.
“Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i’r sector diwylliant a threftadaeth ac mae sôn am unrhyw golledion swyddi yn bryder gwirioneddol.
“Rydym wedi gallu diogelu cymorth grant y Llyfrgell rhag unrhyw ostyngiadau ond oherwydd pwysau cyllidebol digynsail ni fu’n bosibl cynyddu’r cymorth refeniw.
“Mater i’r Llyfrgell yw gwneud penderfyniadau ynghylch sut y gall weithredu’n effeithiol o fewn y cyllidebau sydd ar gael.”
Gellir darllen erthygl undeb Prospect ar wefan y mudiad Undod – Annibyniaeth Radical i Gymru.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer garejis. Neu gallwch danysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar gyfer fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.