Ar drywydd atgofion…ein hanes oll mewn hen luniau

Newyddion

Llais yr Eos yng Nglyn Ceiriog, bwyell hynafol a gafodd ei ffeindio mewn cae ger Llanuwchllyn – a chystadleuaeth Ble Mae’r Bel o’r 50au! – maen nhw i gyd i’w gweld ar y dudalen hen luniau yn rhifyn Chwefror Y Cymro.

‘Llais yr Eos yng Nglyn Ceiriog. Diolch i ŵr lleol, lwyddodd i wneud recordiad ohoni cyn iddi ddiflannu o’r cylch ’ Y Cymro – Mehefin 4 1954

Meddai hanes y llun cyntaf yn ôl yn 1954 am yr Eos: ‘Fe’i clywyd gyntaf yn canu o unarddeg y nos hyd bedwar y bore gan ŵr oedd yn methu â chysgu yn dda oherwydd poenau arthritis. Deuai pobl o bell ac agos i wrando arni, ac ambell noson byddai dau neu dri chant o bobl yn disgwyl clywed ei nodau pêr. Diolch i ŵr lleol, lwyddodd i wneud recordiad ohoni (gweler y llun ar y chwith) cyn iddi ddiflannu o’r cylch.’

Am yr ail lun (islaw) – dywedodd Y Cymro yn 1957:  ‘Y Fwyell Bres. Daeth Mr Gwyn Davies, Bodiwan, Bala ar draws bwyell bres wrth aredig un o feysydd ei fferm yng Nghynllwyd, Llanuwchllyn, – sylwodd hefyd fod pridd o’i chwmpas yn dywyllach na phridd naturiol y cae, ac awgryma’r llosgi iddo fod y fwyell yn perthyn i oed ganol y pres, sef tua 1,500 o flynyddoedd Cyn Crist. Rhoed ei benthyg i Mr Ifor Owen, Ysgolfeistr Llanuwchllyn i roddi gwers i’r plant ar hanes lleol’ 

‘Y Fwyell Bres. Rhoed ei benthyg i Mr Ifor Owen, Ysgolfeistr Llanuwchllyn i roddi gwers i’r plant ar hanes lleol’ Y Cymro, Mai 16, 1957

 

Ac yn y 50au roedd bri mawr ar y gystadleuaeth ‘Ble Mae’r Bêl?’ gyda llawer o’r darllenwyr yn prynu cymaint â phedwar copi o’r Cymro bob wythnos er mwyn cael y ffurflenni cais ychwanegol i godi’r siawns o ennill. Mae’r llun yma islaw o gêm Wrecsam yn erbyn Scunthorpe.

‘Merched wrth y gwair yn Aberllefenni’ Y Cymro 1952

Daw lluniau’r mis hwn, ynghyd â’r nodiadau amdanynt, o’r llyfr ‘Cofio’r Cymro – 75 mlynedd o gyhoeddi poblogaidd’  gan  Robin Jones a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 2007. 

Oes gennych chi lun o’r gorffennol â stori iddo, yn llechu mewn cwpwrdd? Os oes, beth am ei anfon aton ni. Gallwch e-bostio eich llun – gyda chymaint â wyddoch amdano – i gwyb@ycymro.cymru

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar gyfer fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau