Neges o obaith am y math o ddyfodol disglair y gall ein gwlad ei greu sy’n cael sylw tudalen flaen rhifyn Ionawr Y Cymro.
Mae AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth yn rhagweld y ffordd gall Cymru ddihuno o’r dyddiau tywyll presennol gyda gweledigaeth glir i greu gwladwriaeth Gymreig. Mae’n gweld tu hwnt i hunllef Brexit a duwch dyddiau’r firws at adeiladu rhywbeth mae’n ei alw yn wleidyddiaeth gobaith, gwleidyddiaeth goddefgarwch… gwleidyddiaeth cyd-fenter.
Yn llawn ffydd a gobaith ar ddechrau brwydrau’r flwyddyn newydd mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol, hefyd. Mae’n datgan yn ysbrydoledig nad yw newid yn rhodd gan y rhai mewn grym, ond yn rhywbeth mae’n rhaid i bobl ei fynnu.
Ac mae gan Dafydd Iwan farn gref am ‘ffars’ y ddadl dros gytundeb Llywodraeth Llundain a’r UE. Mae’r cenedlaetholdeb Seisnig yn hollol amlwg meddai a ‘mȃn lwch y cloriannau yw’r ymylon Celtaidd’ mewn cytundeb sy’n cynnig dim cysur i Gymru.
Yn ôl Lyn Ebenezer yn ei golofn y mis yma “fu yna neb erioed fel Dai. Does yna neb fel Dai. Fydd yna neb fel Dai.” Er bod y syniad o berson ‘unigryw’ yn cael ei orddefnyddio… mae lle iddo hefyd… pan yn rhyfeddol o addas, fel yn achos Dai Llanilar.
Mae tudalen newydd y mis hwn yn llawn lluniau diddorol o’r gorffennol sydd â stori iddynt – pwy sy’n cofio’r Jukebox cyntaf yn nhafarn laeth Bangor?
Ystyried pam mai eistedd wrth y bwrdd brecwast yn gohirio dysgu’r plant am bum munud bach arall yn lle rhedeg y byd tu ôl i ddesg fawr yr Oval Office mae Esyllt Sears, oes mae ganddi reswm. Ac mae’r colofnwyr eraill yn yn canmol cynnyrch S4C dros y Dolig neu yn cael cip Instagram ar barti mawr yn ei fflat yn Sbaen tra ei bod hi’n styc yng Nghymru fach!
Ac yn ôl yr arfer mae sylw i lyfrau newydd, moduro, garddio a cherddoriaeth.
Bydd y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos mewn siopau ar draws Cymru yn ogystal ag ar ein gwefan.
I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy glicio yma: ycymro.cymru/tanysgrifio neu gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.