Wrth i’r rhan fwyaf o’r byd drafod un pwnc yn unig mae rhifyn Tachwedd Y Cymro yn amrywio’r ffocws ychydig trwy roi sylw i ambell i beth arall sy’n cael effaith sylweddol ar ein gwlad.
Yn eu mysg mae’r frwydr barhaol dros y genhedlaeth sy’n cael ei phrisio o’u cymunedau gan y farchnad tai haf. Mae’r neges dorcalonnus wedi ei chrafu ar draethau penrhyn Llyn mewn llythrennau breision ar y dudalen flaen ac adroddiad arbennig am ddeiseb sy’n galw am ddiwygio’r drefn gynllunio i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Dylai byd busnes a mentergarwch Cymru gael mwy o sylw yn ôl y colofnydd Gari Wyn Jones, yn lle bod clodfori ein beirdd a’n cantorion fyth a beunydd. Ond dywed AS Plaid Cymru Siân Gwenllian nad oes parch digonol i’r celfyddydau wrth i flaenoriaethau’r byd wedi’r firws gael eu rhoi yn ei lle.
Edrych yn ôl ar lun ohono’i hun yn fachgen bach ar ddiwrnod y protestio wrth i argae Tryweryn gael ei agor yn swyddogol yn 1965 mae Ywain Myfyr… a chofio mae un o’i bryderon mwyaf y byddai ei fam a’i chwaer yn cael eu harestio.
Safon ein rhaglenni newyddion Cymraeg sy’n cael sylw’r colofnydd Dylan Wyn Williams tra bod yr hanesydd Mel Hopkins yn adrodd y stori am sut y bu i’r iaith Gymraeg barhau i ffynnu am flynyddoedd ar draws y ffin… yn un o siroeddd Lloegr. Ac mae Lyn Ebenezer yn mynd â ni nôl ddeugain mlynedd, pan lofruddiwyd John Lennon, wrth adrodd stroi hynod am gael ei gyflwyno â llyfr a fu yn nwylo’r llofrudd, a hynny mewn tafarn yn Aber.
Ac yn ôl yr arfer mae sylw i’r llyfrau newydd, moduro, garddio a cherddoriaeth.
Bydd y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos mewn siopau ar draws Cymru yn ogystal ag ar ein gwefan.
I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy glicio yma: ycymro.cymru/tanysgrifio neu gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.