Manylion hanfodol y daith at annibyniaeth Cymru sydd yn hawlio’r sylw ar dudalen flaen rhifyn Hydref.
Yn y rhifyn ei hun mae trafod helaeth am argymhellion adroddiad cyntaf y Comisiwn Annibyniaeth a sefydlwyd gan Blaid Cymru yn 2019. Mae YesCymru yn cyfeirio ato fel cyfraniad enfawr i wthio’r ymgyrch yn ei flaen. Ac mewn darn barn wedi ei ysgrifennu yn arbennig i’r Cymro mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn datgan yn llawn hyder ei weledigaeth ar gyfer ein dyfodol.
Mae’r firws fyth-bresennol yn taflu cysgod dros ran o gynnwys y mis hwn eto gydag ambell stori yn trafod ei effeithiau hir dymor ar ein gwlad. Ond mae’r colofnydd Esyllt Sears yn gweld llygedyn o obaith tu hwnt i’r mygydau a’r holl ganslo digwyddiadau.
Mae argyfwng yr ail gartrefi yn cael sylw pellach gan Gymdeithas yr Iaith, sy’n mynnu atebion brys gan ein Llywodraeth, ac mae’r gwleidydd Rhun ap Iorwerth yn cytuno ei bod yn hen bryd gweithredu.
Llanast y cyfryngau Seisnig wrth ynganu enwau llefydd Cymreig sydd wedi dal sylw’r colofnydd Dylan Wyn Williams tra bod yr hanesydd Mel Hopkins yn ymchwilio i ddigwyddiadau un bore erchyll yn Ionawr 607 yn Ne Cymru.
Yn ogystal mae cyfweliad â’r bardd Aled Lewis Evans sy’n manylu ar ei gyfrol diweddar ‘Tre Terfyn’ – a ddisgrifiwyd fel ‘llythyr cariad i’w filltir sgwâr’ – a sylw i lyfrau a gyhoeddwyd yn diweddar, moduro, garddio a cherddoriaeth.
Bydd y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos mewn siopau ar draws Cymru yn ogystal ag ar ein gwefan.
I dderbyn copi o’r Cymro drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn am £27 trwy glicio yma: ycymro.cymru/tanysgrifio neu gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.