Sefyllfa ddifrifol yr ‘ail dai’ yng Nghymru sy’n hawlio’r prif sylw yn rhifyn Medi.
Yn ogystal ag adroddiad arbennig i sgil-effeithiau’r broblem mae barn ar ddatrysiadau posibl a galwadau ar y Llywodraeth i weithredu ar frys wrth i ffigyrau diweddar ddangos mai gwaethygu’n sylweddol mae’r sefyllfa.
A’r colofnydd Esyllt Sears yn cwestiynu effaith y Cymry Cymraeg hynny sy’n berchen ar dai gwyliau – ydi hi’n iawn i ni felly..?
Mae’n glir bod pryderon y bydd nifer yr ail dai yn creu argyfwng sy’n peryglu holl naws a chymeriad traddodiadol ein cymunedau.
Mae’r hanesydd a’r nofelydd Mel Hopkins yn chwilio yng nghorneli hanes ein cenedl wrth ofyn beth ddigwyddodd i Goron Arthur a’r Groes Naid wedi iddynt gael eu cipio gan Edward I yn dilyn rhyfel y gorchfygu.
Neges o’r galon sydd gan Cadi Edwrads i’w theulu wrth iddi baratoi i fynd dramor am flwyddyn ac edrych yn ôl ar ei phrofiadau yn ystod y cyfnod clo.
Edrych yn ôl mae Dylan Ebenezer ar y dudalen gefn hefyd, ar hen ddyddiau’r BBC yn Llandaf wrth iddo symud i adeilad newydd yng nghanol y ddinas. Mae’n cofio ‘legends’ byd darlledu Cymru a bod y lleisiau cyfredol yn dal i gynnal y safonau a osodwyd gan gewri’r gorffennol.
Yn eu colofn mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau’n angerddol mai’r unig ffordd o leihau effeithiau cyfryngau Saesnig ‘sy’n ffafrio gwerthoedd adain-dde, neoryddfrydol San Steffan’ yw trosglwyddo holl bwerau dros ddarlledu i Gymru… a hynny a cyn gynted â phosib.
Ymhlith y llyfrau newydd sy’n cael sylw mae cyfrol am berthynas y Gymru Gymraeg ag alcohol, sy’n cynnwys rhan o bennod drawiadol yr awdur Lloyd Jones am ei brofiadau; ac mae Dafydd Iwan yn manylu ar bortread ‘cig a gwaed’ o O.M. Edwards.
Ac yn ôl yr arfer mae sylw i deledu, moduro, garddio a cherddoriaeth.
Bydd y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos mewn siopau ar draws Cymru yn ogystal ag ar ein gwefan.
I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy glicio yma: ycymro.cymru/tanysgrifio neu gysylltu â ni: gwyb@ycymro.cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.