Rhifyn Awst Y Cymro

Newyddion

Mae’r drafodaeth gyntaf erioed ar lawr ein senedd am annibyniaeth i Gymru yn cael sylw yn rhifyn Awst Y Cymro wrth i Arweinydd Plaid Cymru honni y gellid creu gwleidyddiaeth o obaith trwy ennill annibyniaeth. Mae YesCymru yn disgrifio’r ddadl fel un hanesyddol ac yn pwysleisio’r angen am lwybr clir sy’n cynnwys opsiwn ar gyfer ein annibyniaeth.

Mae’r frwydr i warchod enwau Cymreig hefyd yn bwnc llosg, mae pryder bod cymeriad ac etifeddiaeth mewn perygl wrth i fwy a mwy o enwau lleol gael eu Seisnigeiddio – yn swyddogol drwy dalu am wneud a hefyd ar dafod yn sgil-effaith twristiaeth.

Sôn am bwysigrwydd cynnal diniweidrwydd mor hir â phosib mewn byd sy’n newid mor gyflym mae’r colofnydd Esyllt Sears, tra bod Cadi Edwards yn gofyn sut a phryd y daethon ni i gyd yn weision dall a byddar i’r ffôn bach yn ein llaw!

Mewn colofn arbennig mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn sôn yn helaeth am heriau misoedd trist y firws a’r argraff y cafodd ymateb cymunedau Cymru arno.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn trafod y weledigaeth newydd o reidrwydd i fynd tu hwnt i’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a chreu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb er mwyn adeiladu’r wlad yr hoffem i gyd weld.

Llythyr personol i Gareth Bale sydd gan Dylan Ebenezer ar y dudalen gefn y mis hwn – cysylltiad o gysur sy’n datgan nad oes ots sut eith pethau iddo yn Sbaen – mae angen ein harwr arnom ni yng Nghymru fwy nag erioed!

Yn ôl yr arfer mae sylw i deledu, moduro, garddio, cerddoriaeth, y llyfrau diweddaraf… ac un o’r straeon tristaf o hanes Cymru ar y tudalennau canol.

Bydd y Cymro ar gael o ddiwedd yr wythnos o siopau ar draws Cymru yn ogystal ag ar ein gwefan.

I dderbyn drwy’r post bob mis trefnwch danysgrifiad blwyddyn i’r Cymro am £27 trwy glicio yma.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau