Twf enfawr yn y gefnogaeth i Yes Cymru ac annibyniaeth wrth baratoi am y cyfarfod cyffredinol

Newyddion

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol YesCymru ar ddydd Sadwrn, 25 Ionawr 2020 yn Theatr Soar, Merthyr Tudful, yn dilyn twf eithriadol yn nifer yr aelodau a gweithgarwch y mudiad ers y Cyfarfod Cyffredinol diwethaf.

Dywedodd Cadeirydd YesCymru Siôn Jobbins:

“Yn 2019 daeth miloedd allan i’r strydoedd i ddatgan eu dymuniad i weld Cymru annibynnol yng ngorymdeithiau AUOB Cymru – rhywbeth sydd erioed wedi digwydd o’r blaen – ac mae trafod annibyniaeth i Gymru yn awr yn dod yn rhan naturiol o fywyd a sgwrs pobl Cymru o ddydd i ddydd.

“Fe wnaeth cyn-brifweinidog Cymru, Carwyn Jones, siarad yn un o gyfarfodydd cyhoeddus YesCymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe ddangosodd arolwg barn YouGov ym mis Medi 2019 y byddai rhwng 32%* a 41%* yn pleidleisio dros annibyniaeth mewn refferendwm yn ddibynnol ar y cwestiwn.

“Mae nifer aelodau YesCymru wedi treblu ers y cyfarfod cyffredinol diwethaf i oddeutu 2,500, a gyda hynny mae grwpiau newydd wedi’u sefydlu ym mhob rhan o Gymru ac yn brysur lledu’r neges am fanteision annibyniaeth. Bu twf anferthol hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer ein dilynwyr ar Twitter yn dyblu, o 10 mil i 20 mil, mewn blwyddyn.”

Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru yn siarad yng ngorymdaith AUOB Caerdydd yn 2019. Llun: Lluniau lleucu / YesCymru.

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol bydd cyn Brif Weithredwr y cwmni Just Eat, David Buttress (Cyfleoedd a ddaw i fusnes gydag annibyniaeth), Angharad Mair (Cyfryngau), Carolyn Hitt (Rygbi ac Annibyniaeth), Mark Evans (Pêl-droed ac annibyniaeth) a Mark Hooper (Banc Cambria) yn siarad mewn sesiynau ‘Sgwrs Annibyniaeth’ yn y prynhawn.

Ychwanegodd Siôn Jobbins:

“Mae’r ffaith ein bod ni mor ffodus â denu siaradwyr huawdl ac o sylwedd fel David Buttress, Carolyn Hitt, Angharad Mair, Mark Hooper a Mark Evans i Gyfarfod Cyffredinol YesCymru ym Merthyr ar 25 Ionawr yn dyst i’r newid ymysg pobl Cymru.

“Mae tair gorymdaith arall eisoes wedi’u trefnu ar gyfer 2020, ar y cyd ag AUOB Cymru, yn Wrecsam, Tredegar ac Abertawe, ac rydym yn hyderus iawn y bydd yr ymgyrch yn parhau i fynd o nerth i nerth yn 2020.”

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol YesCymru ar ddydd Sadwrn, 25 Ionawr 2020 yn Theatr Soar, Merthyr Tudful rhwng 10am a 1pm, a bydd y sgyrsiau yn y prynhawn yn digwydd rhwng 2pm – 4pm ar yr un diwrnod ac yn yr un lleoliad.

Am fwy o fanylion am orymdeithiau AUOB Cymru yn 2020 ewch yma 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau