Yn dilyn llwyddiant gorymdaith AUOB Caernarfon dros y penwythnos a welodd 10,000 o bobl yn dod i’r Dre, mae AUOB Cymru wedi cyhoeddi mai Merthyr Tudful bydd lleoliad eu gorymdaith nesaf ar Ddydd Sadwrn 7fed o fis Medi eleni.
Yn ôl AUOB Cymru, mae’n dechrau dod i’r amlwg bod “anfodlondeb gyda methiannau San Steffan yn tyfu’n gyflym…”
“Bydd mwy o manylion i ddilyn ond byddwch yn barod i drefnu eich trafnidiaeth, eich baneri, eich offerynnau, eich teulu a ffrindiau i gymeryd rhan mewn digwyddiad hanesyddol! ”
Bydd Gorymdaith Merthyr Tudful AUOB Cymru yn dod i ben ar Sgwâr Penderyn gyda’r arwr pêl-droed ac actifydd Neville Southall yn annerch y dorf.
Enwyd Sgwâr Penderyn i gofio Dic Penderyn, merthyr a safodd am hawliau ei gyd-weithwyr yn erbyn grym a difaterwch y wladwriaeth Brydeinig sy’n parhau i fodoli hyd heddiw.
CYD-GYMRY, ydych chi’n barod i orymdeithio dros Ferthyr?
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.