Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi llongyfarch Cyngor Bro Morgannwg ar benderfyniad hollbwysig i agor ysgol Gymraeg fel rhan o ddatblygiad y Glannau yn Y Barri.
DWBLI DARPARIAETH
Daw hyn wrth i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu cynnig i ehangu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Barri, trwy gynyddu capasiti Ysgol Sant Baruc o 210 i 420 o leoedd a throsglwyddo staff a disgyblion o’r safle presennol i’r adeilad ysgol newydd a gaiff ei hadeiladu fel rhan o ddatblygiad y Glannau erbyn mis Medi 2021.
Fe fydd yna hefyd adran feithrin o hyd at 96 lle ar y safle newydd.
Meddai Mark Bowen ar ran RhAG Bro Morgannwg,
“Rydym wedi ymgyrchu ers cryn amser o blaid y cynnig i symud Ysgol Sant Baruc i’r Glannau. Rydym yn croesawu’n frwd gyhoeddiad y Cabinet heddiw.
“Dyma benderfyniad arwyddocaol iawn yn hanes twf Addysg Cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth, gan ddangos sut y mae modd iddo fod yn elfen ganolog mewn datblygiadau tai mawr newydd.
“Bydd hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys Y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed.
“Rydym yn diolch i Gabinet Cyngor Bro Morgannwg am eu gweledigaeth: mae’n ddiwrnod da iawn i Ysgol Sant Baruc ac i ddyfodol yr iaith Gymraeg yn Y Barri.”
Da yn wir bod y sant sydd wedi rhannu ei enw ei hun gyda’r dref yn awr yn rhoi ei enw i ddatblygiad newydd mor gyffrous yn Y Barri.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.