‘Os ydych yn gyn-ddisgybl dewch i gefnogi’ch hen ysgol’
Bydd cynrychiolaeth o holl ysgolion Cymraeg Caerdydd y presennol a’r gorffennol yn gorymdeithio fore Sadwrn Mehefin 22ain i ddathlu 70 mlynedd o addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.
Disgwylir y bydd Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a chyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bryntaf ac Ysgol Gymraeg Glantaf, yn eu croesawu i Ŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ar ddiwedd yr orymdaith.

Ar 5 Medi 1949, agorodd Ysgol Gymraeg Caerdydd, yr ysgol gyntaf i ddarparu addysg cyfrwng-Gymraeg yn y ddinas, mewn ystafell ddosbarth yn Ysgol Fodern y Bechgyn, Ninian Park. Cofrestrwyd 19 o ddisgyblion pan agorwyd yr ysgol. Bellach, mae bron i 800 o ddisgyblion yn dechrau mynychu un o 17 ysgol gynradd Gymraeg Caerdydd yn flynyddol. Yn ogystal mae tair ysgol uwchradd bellach, a’r angen am bedwaredd ysgol o fewn y 5 mlynedd nesaf wedi’i brofi’n barod.
Rhai o gyn-ddisgyblion cynnar yr ysgol wreiddiol, Ysgol Gymraeg Caerdydd – a enwyd wedyn yn Ysgol Bryntaf – sydd wedi cynllunio’r orymdaith ar y cyd efo’r ysgolion presennol. Nhw hefyd fydd yn arwain yr orymdaith fydd â chynrychiolaeth o holl ysgolion Cymraeg presennol y ddinas ynghyd â Rhieni dros Addysg Gymraeg a’r Mudiad Meithrin.
Mewn datganiad i’r Cymro, meddai Iolo Walters ac Alwyn Evans o’r Pwyllgor Cynllunio:
“Y nod yw dathlu’r twf anhygoel sydd wedi bod mewn ysgolion Cymraeg Caerdydd ers i ni fod ymhlith y dyrnaid cyntaf o ddisgyblion. Ein hwyrion yw’r drydedd genhedlaeth i fynychu’r ysgolion Cymraeg hyn.
“Hefyd, mae’r Orymdaith yn gyfle i ddangos i rieni Caerdydd fod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i’w plant ym mhob cornel o’r ddinas, beth bynnag yw iaith y cartref. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhieni hynny, y di-Gymraeg gymaint â’r Cymry Cymraeg, sydd oll â’u plant wedi elwa o addysg Gymraeg, yn gorymdeithio gyda ni i gefnogi ysgolion eu plant.
“Os ydych chi’n gyn-ddisgybl, dowch allan i gefnogi’ch hen ysgol chi, boed gynradd neu uwchradd!”
AMSERLEN Y DIWRNOD
9.00-10.00 Ymgynnull: Rhodfa Brenin Edward VII, ger Neuadd y Ddinas.
10.00 Cyfarchion gan y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd.
11.00 Cyrraedd Porth Gogleddol Castell Caerdydd, Parc Biwt.
11.15 Croeso i Tafwyl gan Eluned Morgan AC, Barwnes Elái, Gweinidog dros y Gymraeg.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.