Yr Athro Elan Closs Stephens wedi’i phenodi yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
Bydd yr Athro Stephens yn ymgymryd â’i dyletswyddau fel Dirprwy Ganghellor ym mis Ionawr 2020, gan olynu Gwerfyl Pierce Jones sy’n dod i ddiwedd ei chyfnod ym mis Rhagfyr 2019.
Yn raddedig o Goleg Somerville, Prifysgol Rhydychen, mae’r Fonesig Stephens yn Athro Emeritws mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gyn-bennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Fwrdd y BBC dros Gymru ac yn Gomisiynydd Etholiadol Cymru.
Mae rôl anrhydeddus y Dirprwy Ganghellor yn canolbwyntio ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol, gan gynnwys llywyddu seremonïau graddio blynyddol y Brifysgol.
Dywedodd Canghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd:
“Mae’n bleser gennyf gadarnhau penodiad Elan Closs Stephens yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Elan gyfoeth o brofiad nid yn unig ym maes addysg uwch a’r diwydiannau creadigol ond hefyd gweinyddiaeth gyhoeddus a llywodraethant ar y lefel uchaf.”
Ganed yr Athro y Fonesig Stephens yn Nyffryn Nantlle, ac mae wedi arbenigo mewn polisi rheoleiddio diwylliannol a darlledu, gan gadeirio Adolygiad Stephens i Gyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a Chadeirydd S4C.
Bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol Uwch Fwrdd Ysgrifennydd Parhaol Cymru a bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Archwilio a Risg rhwng 2008-18. Bu hefyd yn gadeirydd Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn.
Gwasanaethodd hefyd fel Uwch Siryf siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion rhwng 2012-13.
Aelod Newydd i’r Cyngor!
Mae’r Brifysgol hefyd wedi penodi aelod newydd i’r Cyngor: bydd Meri Huws yn mynychu ei chyfarfod cyntaf o’r corff llywodraethu ddiwedd Mehefin 2019 gan wasanaethu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.
Meri Huws oedd Comisiynydd y Gymraeg o 2012 tan 2019, ac mae’n gyn Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Fe’i penodwyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg ym mis Ebrill 2019, ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio oddi mewn i gyrff cyhoeddus gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Gofal Cymru.
Wrth groesawu’r penodiadau, dywedodd Cadeirydd Cyngor y Brifysgol Dr Emyr Roberts:
“Mae’r penodiadau hyn yn dod â thoreth o brofiad ac arbenigedd at y bwrdd. Maen nhw hefyd yn golygu bod gennym am y tro cyntaf nifer cyfartal o ddynion a menywod ar y Cyngor.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.