Fe fydd ymgyrchwyr yn ymgynnull ym Mhenrhyndeudraeth heddiw (dydd Sadwrn, 18fed Mai) er mwyn trafod polisïau i ymateb i effaith ail gartrefi ar y Gymraeg.
Ymhlith y cyfranogwyr bydd Liz Saville Roberts AS, Elfed Roberts ac Elin Hywel, a fydd yn trafod gwahanol agweddau o’r pwnc o dan gadeiryddiaeth y pensaer, y gweithredwr cymdeithasol a’r ymgyrchydd iaith Sel Jones.
Yn ôl ystadegau diweddar, roedd 39% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd yn 2017/18 yn ail gartrefi.
Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:
“Os oes yna un pwnc llosg sy’n crisialu argyfwng y Gymru gyfoes, yna “Tai” yw hwnnw. Pwy sy’n berchen arnyn nhw? Pwy sy’n medru fforddio eu prynu? Pwy sy’n methu fforddio eu prynu? Mae’r annhegwch presennol yn rhemp – mae rhai yn berchen mwy nag un tŷ, eraill heb yr un, a rhai heb do o gwbl uwch eu pennau. Mae yna ddadl am edrych tuag at beth mae ardaloedd yng Nghernyw wedi gwneud, o ran cyfyngu ar y nifer o ail gartrefi mewn ardal, ac mae hynny’n un pwynt sydd angen ei drafod.”
“Mae diffyg tai fforddiadwy yn broblem drwy Gymru benbaladr, a ffaith ddiymwad yw fod siroedd Cymreiciaf y Gorllewin o dan bwysau ychwanegol aruthrol gan fod cymaint o dai un ai yn ail gartrefi, neu’n dai sy’n cael eu prynu yn un swydd er mwyn eu gosod i ymwelwyr. Mae prisiau wedi codi cymaint nes eu bod yn aml allan o gyrraedd pobl ifanc lleol sy’n ceisio prynu tŷ am y tro cyntaf. Pan gyplysir hyn efo cyflogau isel, ‘does ryfedd yn y byd fod yna broblem aruthrol wedi datblygu i raddau sy’n waeth na dim a welwyd yn y gorffennol, ar waetha’r holl rybuddion a’r ymgyrchu a fu. Os edrychwn ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny”.
Tai Pwy? Argyfwng tai ledled Cymru!
Liz Saville Roberts AS, Elin Hywel a Sel Jones
Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth, 11yb dydd Sadwrn, 18fed o Fai
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gymdeithas o bobol sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
Os yn mynychu, cofiwch ddweud eich bod wedi gweld y digwyddiad fan hyn – neu yn Y Cymro wrth gwrs! : DIOLCH
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.