Gorymdaith “Pawb Dan Un Faner” dros Annibyniaeth, Caerdydd, Mai yr 11eg 2019 1.30yp Neuadd y Ddinas, Caerdydd ( ger yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd )
gan Llywelyn ap Gwilym, cynrychiolydd Pawb Dan Un Faner Cymru
Gwelwyd cefnogaeth frwd i ddatganoli grymoedd o San Steffan i Gymru mewn nifer o refferenda a pholau piniwn diweddar, ond yn hanesyddol lleiafrif fu’r rhai a gefnogai annibyniaeth.
Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi newid tirlun gwleidyddol Cymru. Bellach mae Iwerddon unedig ac Alban annibynnol yn syniadau mwy credadwy, ac annibyniaeth i Gymru yn bwnc trafod mawr. Cymru, o holl wledydd y Deyrnas Gyfunol, fyddai fwyaf ar ei cholled yn sgil gadael yr UE ac mae Cymru wedi’i hamddifadu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol sydd wedi dileu cynlluniau ar gyfer morlyn Abertawe a thrydaneiddio’r rheilffyrdd ac anwybyddu Cymru yn llwyr yn ystod trafodaethau Brecsit. Mae hyn oll wedi cyfrannu at yr awydd am annibyniaeth, neu drafodaeth amdano fan leiaf.
Er gwaetha’r holl newyddion gwael mae llygedyn o obaith i etholwyr Cymru o weld yr hyn all – ac mae – Cymru’n ei gyflawni: mae Cymru ymysg y 5 uchaf yn y byd am ailgylchu; mae’n un o’r allforwyr egni mwyaf, a Chymru oedd y cyntaf i gyd-sefyll gydag ymprydwyr Cwrdaidd sy’n protestio carchariad unigolyddol Abdullah Öcalan. Mae hyder newydd i’w weld wrth i ni amddiffyn ein hanes a’n diwylliant, fel y gwelwyd gydag ail-baentio ac ail-adeiladu wal Cofiwch Dryweryn, a’r ail-greadau ohono a welwyd ar draws Cymru. Rhaid holi beth allai gwlad hyderus, sy’n edrych allan ar y byd, gyflawni fel aelod llawn o’r gymuned ryngwladol ac â rheolaeth lwyr dros ei democratiaeth.
Rydym eisoes yn edrych at wledydd bach annibynnol llwyddiannus eraill am ysbrydoliaeth.
Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, ond yn Nenmarc 5% o blant sy’n byw mewn tlodi; mae digartrefedd yn hollol amlwg yma yng Nghymru ond mae’r broblem wedi’i gwaredu i bob pwrpas yng Ngwlad yr Iâ. Mae’r enghreifftiau o’r math yn galondid i’r rhai sy’n agored i’r syniad o annibyniaeth.
Mae’r mwyafrif ohonom sy’n pledio achos annibyniaeth yn cydnabod mai modd i gyrraedd y nod, nid y nod ei hun yw annibyniaeth. Mae gan bobl ddelfryd o wlad well, decach, mwy ffyniannus, ac am groesawu unrhyw un sydd am greu cartref yng Nghymru a chyfrannu i’n cymunedau. Ond, yn naturiol, o glywed o hyd bod Cymru’n rhy fach ac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol mae pobl am wybod mwy am y math o ddyfodol sydd mewn golwg a sut gall Cymru wireddu hynny. Mae’r polisïau manwl eto creu ond mae trafod am y cyfeiriad cyffredinol, ac ymchwil i economeg y Gymru newydd.
Yn wir, fe fydd “Pawb Dan Un Faner” d.Sadwrn yma.
Dilynwch @AUOBCymru ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddaradau pellach:
📢 CYHOEDDIAD 📢
O achos amgylchiadau annisgwyl, mae @cyngorcaerdydd wedi gofyn i ni symud y rali ar ddiwedd yr orymdaith, o'r Llyfrgell Ganolog i Hills St, tua 100m ymhellach i fyny'r Aes. Yn amlwg rydym yn hapus i helpu 👍🏻
Dal yn dechrau 1.30yp tu allan i Neuadd y Ddinas
— AUOBCymru (@AUOBCymru) May 9, 2019
Fe fydd Y Cymro yno d.Sadwrn – os welwch chi ni yn ein crys T coch, dewch draw i ddweud helo ar ein cyfryngau cymdeithasol ni #CyfeillionYCymro !
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.