Amcangyfrif fod 2000 – 3000 mil o bobl wedi mynychu rali annibyniaeth i Gymru yng Nghaerdydd heddiw

Newyddion

Amcangyfrifir bod 2000 – 3000 mil o bobl wedi mynychu rali annibyniaeth i Gymru wedi’i threfnu gan bawb dan un faner (AUOB) Cymru yn brifddinas Cymru heddiw (Sadwrn)

Ymgasglodd dinasyddion o bob cwr o Gymru y tu allan i neuadd y ddinas cyn gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd yn yr hyn y gellir ei ddisgrifio fel yr orymdaith annibyniaeth fawr swyddogol gyntaf yn hanes Cymru.

Daeth nifer o fysiau o ogledd orllewin a gogledd ddwyrain Cymru, o ganolbarth Cymru ac o dde orllewin a de ddwyrain Cymru, yn ogystal ag o’r brifddinas ei hun.

Mae amcangyfrifon ar gyfer nifer y bobl yn y rali yn amrywio o rhwng 2000 – 3000 o bobl er i’r BBC geisio disgrifio’r niferoedd yn anghywir fel yn y  ‘cannoedd ‘.

Y siaradwyr a siaradodd ar ddiwedd y rali oedd Carys Eleri, Adam Price – arweinydd Plaid Cymru, Ben Gwalchmai o Lafur 4 Indy Cymru, Siôn Jobbins o YesCymru, Sandy Clubb o Undod a’r bardd Ali Goolyad.

Gweler luniau o’r rali isod:

 

Lluniau: G.Meredith

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau