Cymru biau’r tonnau… ein llynges gyntaf ers dros 600 mlynedd! Lansiad fflyd newydd i gadw golwg ar ddyfroedd ein gwlad

Newyddion

Adroddiad gan Gruffydd Meredith

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio fflyd o bum cwch newydd – y fflyd neu’r llynges swyddogol gyntaf i genedl Cymru ers dros 600 o flynyddoedd. Neu ychydig dros 400 mlynedd o gynnwys un o lyngesau mwyaf llwyddiannus y byd oedd yn eiddo i’r Cymry Harri’r wythfed a’i ferch Elizabeth y 1af wrth gwrs…

Enwau’r ddwy long fawr newydd yw Rhodri Morgan a Lady Megan, tra bod y ddau gwch llai gyda nhw wedi’u enwi’n Gwenllian a Siwan ac un cwch cyflymach maint canolig o’r enw Catrin. Bydd y cychod yn cadw golwg ar ddyfroedd Cymru ac yn chwilio am bysgota anghyfreithlon. Bydd y dechnoleg ddiweddaraf gan y ddwy long newydd er mwyn diogelu deddfau pysgodfeydd a’r môr.

Y Rhodri Morgan. Llun gan Milford Marina

Mae llong Rhodri Morgan wedi’i henwi ar ôl Hywel ‘Rhodri’ Morgan, Prif Weinidog cyntaf Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru o 2000 hyd 2009, sydd wedi ei ddisgrifio fel tad datganoli yng Nghymru. Mae’r cwch patrôl 26 metr yn pwyso 75 tunnell,  gyda chyflymder uchaf o 28 not ac mae’n dal 11,000 litr o danwydd. Gall deithio hyd at 500 o filltiroedd môr (575 o filltiroedd tir) ar un llond tanc.

Mae’r cwch, sydd wedi’i adeiladu gan Mainstay Marine Solutions Ltd yn Noc Penfro, hefyd yn cynnwys cwch llai o’r enw Gwenllian sef RIB 6.5 metr sydd wedi’i henwi ar ôl merch Llywelyn ap Gruffydd. Mae tarian neu arfbais fechan unigryw wedi ei chreu ar gyfer y Rhodri Morgan sydd yn dangos dolffiniaid yn hela mecryll, er cof am y cyn arweinydd oedd yn hoff o wylio dolffiniaid yng Ngorllewin Cymru yn arbennig. Gall wyth o bobl fyw a chysgu mewn pedwar caban dwbl ar long y Rhodri Morgan ac mae gan y cwch hefyd GPS, Radar, Echo a goleuadau chwilio.

Y Rhodri Morgan. Llun gan Llywodraeth Cymru

Aeth gweddw Rhodri Morgan, Julie Morgan, sydd hefyd yn Aelod Cynulliad dros ogledd Caerdydd dros Lafur Cymru ac yn Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r seremoni lansio ym Mae Caerdydd er cof am ei gŵr. Yn siarad yn y seremoni, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’n anrhydedd gallu enwi’r cwch yma ar ôl Rhodri Morgan heddiw; dyn roddodd gymaint i Gymru gan adael ei farc yn barhaus ar ein hanes.”

Y Lady Megan. Llun gan Llywodraeth Cymru

Y llong batrolio fawr arall newydd a enwyd ac a lansiwyd mewn seremoni ym Marina Conwy yw’r Lady Megan sydd hefyd wedi’i dylunio a’i hadeiladu gan Mainstay Marine Solutions Ltd yn Noc Penfro. Mae’r llong wedi’i henwi ar ôl yr Arglwyddes Megan Arvon Lloyd George, merch cyn Brif Weinidog Prydain Lloyd George a gafodd ei geni yng Nghricieth. Hi oedd Aelod Seneddol benywaidd gyntaf Cymru.

Mae’r llong 19 metr siâp catamaran sy’n pwyso 56 tunnell yn gallu gwneud hyd at 28 not a chyrraedd pellter o 400 o filltiroedd môr (460 o filltiroedd tir) ar un llond tanc. Mae ganddi offer GPS, radar, goleuadau chwilio a ‘labordy gwlyb’. Mae lle hefyd i wyth o bobl gysgu arni. Hefyd, i gyd fynd gyda Lady Megan, mae cwch RIB 5 metr o’r enw Siwan, wedi ei henwi ar ôl gwraig Llywelyn Fawr. Mae gan y Lady Megan hefyd ei harfbais ei hun – dyluniad sy’n cynnwys draig Cymru yn dal symbol porthcwlis amddiffynnol.

Catrin – cwch maint canolig (13 metr) ar gyfer patrolio/ymateb cyflym. Llun gan Llywodraeth Cymru.

Mae’r cwch newydd maint canolig, Catrin, wedi’i henwi ar ôl merch Owain Glyndŵr, ac yn gallu ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd yn ymwneud â physgodfeydd a dyfroedd Cymru. Mae’n 13 metr o hyd, ei chyflymder uchaf ydi 35 not a gall deithio 200 o filltiroedd môr (230 o filltiroedd tir) ar un llond tanc. Mae lle i ddau berson gysgu arni tra bod lle i bedwar aelod o staff drafaelio yn gyfforddus ar ei bwrdd. Mae ganddi hefyd darian arfbais ei hun sy’n ddyluniad o Catrin.

Catrin ym Marina Aberystwyth

Tywalltwyd siampên ar y ddwy long fawr newydd wrth iddynt gael ei lansio. Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am reoli a gorfodi deddfwriaeth yn ymwneud â physgodfeydd ym moroedd Cymru – ardal o 32,000 cilomedr sgwâr sydd draean yn fwy nag ardal Cymru ei hun. Pwrpas y cychod newydd yw cymryd lle’r hen gychod ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, ‘i amddiffyn dyfroedd Cymru rhag pysgota anghyfreithlon, a diogelu diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol Cymru yn y blynyddoedd a ddaw.’

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru: “Bydd y cychod hyn yn flaenllaw yn yr ymgyrch i amddiffyn dyfroedd Cymru a’n diwydiant pysgota, gan roi ymateb brys i sicrhau bod Cymru yn parhau i allu gorfodi deddfau pysgodfeydd a moroedd. Cyn yr heriau rydym yn eu hwynebu mewn byd wedi Brecsit, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac yn sicrhau bod ein diwydiant pysgota cyn gryfed â phosib, fel y gallwn ffynnu mewn blynyddoedd i ddod.”

Gwenllian – un o ribs cwch Rhodri Morgan ar batrol yn Aberdaugleddau. Llun gan Llywodraeth Cymru

Bydd y Rhodri Morgan yn cael ei hangori yn nyfroedd Aberdaugleddau yn bennaf ac yn cadw golwg ar bysgodfeydd morol de Cymru, tra y bydd Lady Megan wedi ei hangori yng Nghonwy yn bennaf ac yn edrych ar ôl pysgodfeydd morol gogledd Cymru. Bydd y cwch cyflym, Catrin, yn symud rhwng nifer o borthladdoedd yn dibynnol ar yr angen, gydag Aberystwyth, Conwy ac Aberdaugleddau yn debygol o fod y prif borthladdoedd iddi ymweld â nhw.

Mae’r cychod newydd yn cymeryd lle’r hen rai a gafodd eu rhoi i Lywodraeth Cymru gan y Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr yng Nghymru, a ddaeth i ben yn 2010. Un o’r cychod yma oedd Aegis ynghyd a’i RIB llai o’r enw Dylan. Bellach mae’r Aegis wedi ei hailenwi’n ‘Pride of Wales‘ i adlewyrchu ei gwreiddiau Cymreig, ac wedi ei rhoi i Lywodraeth Liberia fel rhodd gan Lywodraeth Cymru. Digwyddodd hyn ar ôl i dîm ‘Cymru o blaid Affrica’ Llywodraeth Cymru gysylltu â Llywodraeth Liberia ynghylch y posibilrwydd o roi ‘Pride of Wales’ iddynt.

‘Pride of Wales’ sydd wedi ei rhoi i Lywodraeth Liberia gan lywodraeth Cymru. Llun gan Llywodraeth Cymru

Amcangyfrifir gan lywodraeth Cymru y bydd y cwch ‘Pride of Wales‘, sydd gyda chyflymder uchaf o 17 not ac amrywiaeth o offer GPS, Furuno Echo Sounder a radar, yn helpu i amddiffyn y dros 40,000 o bysgotwyr Liberia sy’n pysgota i fwydo eu teuluoedd, yn ogystal ag amddiffyn y gymuned ehangach rhag llongau o dramor sy’n gweithredu’n anghyfreithlon yn nyfroedd Liberia.

Yn ystod seremoni ddiweddar yng Nghonwy, cafodd baneri eu newid ar y Pride of Wales gerbron cynrychiolwyr o Lywodraeth Liberia i nodi ei berchnogion newydd. Teithiodd y cwch i Antwerp, Gwlad Belg ble y gosodwyd ar gwch mwy gan swyddogion Llywodraeth Liberia er mwyn ei chario i Monrovia, prif ddinas Liberia. Yr hen gwch arall oedd Cranogwen (ar ôl y forwraig Sarah Cranogwen) gyda’i RIB maint llai o’r enw Merlin.

Cyfanswm y gwariant ar adeiladu’r holl gychod newydd yw £7miliwn o bunnoedd. Amcangyfrifir bod costau rhedeg y cychod newydd, gan gynnwys ffioedd angori, costau criwiau ac iechyd a diogelwch, yn oddeutu £500,000 y flwyddyn.

 

Mae rhifyn Ebrill o’r Cymro ar gael yn eich siopau lleol rwan – tanysgrifio drwy’r post ac yn ddigidol hefyd ar gael

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau