Mae Imam Sis wedi bod yn ymprydio ers Rhagfyr 2018, yr ympryd hiraf yn hanes Cymru ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae streic newyn Sis, sydd yn byw yng Nghasnewydd, yn rhan o ymgyrch ymprydio fyd-eang : yn cynnwys 30 o ymprydwyr yng Nghymru, 15 ymprydiwr yn Strasbwrg, o leiaf 60 mewn carchardai yn Nhwrci ac Aelod Seneddol yr HDP yn Nhwrci, Leyla Güvenwedi. Mae’r ymprydwyr yn galw am roi terfyn ar garchariad unig Abdullah Öcalan, arweinydd y Cwrdiaid.
Carcharwyd Öcalan yn Nhwrci yn 1999 ac nid ydyw wedi cael gweld ei gyfreithwyr ers 2011, sydd yn groes i reolau rhyngwladol am hawliau dynol. Ymweliad deng munud o hyd yn unig gan ei deulu sydd wedi’i ganiatáu iddo ers tair blynedd. Yn ôl pob tebyg pwysau gan ymprydwyr oedd wrth wraidd caniatáu i Abdullah Öcalan weld ei frawd, Mehmet.
Mae’r ymgyrchwyr yng Nghymru yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn galw ar y Pwyllgor Atal Artaith i ymweld â Charchar Imrali yn Nhwrci ac i’r awdurdodau yno ganiatáu Abdullah Öcalan gyfarfod ei gyfreithwyr.
Yn ogystal ag yr ymprydio y bu aelodau Cymdeithas yr Iaith a Gweithwyr Diwydiannol y Byd yn rhan ohono, fe wnaeth cefnogwyr gerdded o Lundain i Gasnewydd gan orffen eu taith â phrotest o dros 100 o bobl. Yn ystod streic newyn Imam Sis bu i gyd-gadeirydd Cyngor Democrataidd Syria sef Ilham Ahmed ymweld ag ef, ac mae Sis wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth ac ymweliadau gan rai o Aelodau Senedd Cymru.
Dywedodd Imam Sis, sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru ac yn aelod o Blaid Cymru:
“Dydi’r holl hawliau dynol sylfaenol sydd ar gael i bawb arall ddim ar gael i’r Cwrdiaid. “
“Y Cwrdiaid sydd wedi bod yn ymladd ISIS yn Syria ar gost bywyd sylweddol. Mae dros 8,000 o bobl ifanc wedi rhoi eu bywyd er mwyn ymladd tra’n adeiladu cymdeithas flaengar yng ngogledd Syria.”
Mae theorïau gwleidyddol Abdullah Öcalan wedi ysbrydoli chwyldro ffeministaidd yn Cwrdistan ac wedi paratoi tir ar gyfer Rojava, ardal hunanlywodraethol ac aml-ethnig fu’n ymladd IS â chryn dipyn o lwyddiant yn Syria.
Fe fydd yna ddiweddariad pellach i’r stori yma yn fuan…
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.