Cafwyd noson arbennig yn y Tramshed, Caerdydd neithiwr wrth i rai o brif gerddorion ac artistiaid Cymru ddod at ei gilydd i ddechrau’r drafodaeth am annibyniaeth i Gymru.
Roedd y Tramshed yn orlawn gyda dros 1000 o bobol yn bresennol, y mwyafrif helaeth ohonynt yn bobol ifanc ond gyda chroestoriad o wahanol oedrannau hefyd yn bresennol. Roedd hefyd gymysgedd a chroestoriad iachus o Gymry Cymraeg a di Gymraeg.
Roedd y noson wedi ei threfnu gan Cian Ciaran ac eraill o dan faner ‘Yes is more’ / ‘Gellir Gwell’.
Ymysg yr artistiaid yn perfformio roedd enillwyr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2018, Boy Azooga ynghyd ag Los Blancos a Astroid Boys, gyda Cian Ciaran, Gruff Rhys a Gwenno hefyd yn DJio.
Mewn bŵts du hir hynod, coronodd Charlotte Church a’r Pop Dungeon y noson gyda pherfformiad anhygoel a orffennwyd gyda Charlotte a’r band yn gwneud fersiwn unigryw o’r anthem genedlaethol.
Yn cyflwyno’r bandiau roedd aelodau o’r grŵp Goldie Looking Chain o Gasnewydd.
Roedd awyrgylch arbennig i’r noson wrth i artistiaid Cymraeg a di Gymraeg ddatgan yn agored eu bod am weld Cymru hyderus annibynnol. Mae’r noson eisoes yn cael ei disgrifio gan nifer fel diwedd y dechrau i annibyniaeth i Gymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Bendigedig wir. Mae’n rhoi hwb i’r galon ar adeg mor wleidyddol dywyll.