Yn dilyn galwad agored am syniadau ar gyfer cylchgronau Cymraeg oedd yn dymuno gwneud cais am nawdd, derbyniwyd 19 o geisiadau gan gyhoeddiadau hen a newydd gan Gyngor Llyfrau Cymru. Llwyddwyd i gefnogi 17 o deitlau, dau ohonynt yn newydd i’r maes.
Yn ogystal â hynny, llwyddwyd i gynnig arian datblygu unwaith ac am byth i ddau deitl.
Dywedodd Robat Arwyn, Cadeirydd y Panel:
“Rydym fel Panel yn hynod o falch o ganlyniad y broses a chredwn fod nawdd y Cyngor Llyfrau wedi llwyddo i gefnogi ystod eang ac amrywiol o gyhoeddiadau. Mewn cyfnod anodd o ran cyllido a gwerthiant cylchgronau’n gyffredinol, mae’n braf gweld y diwydiant yn ymateb gyda syniadau newydd sbon a pharodrwydd i ymateb i her y byd digidol.”
Llwyddwyd i gyllido dau syniad newydd sbon – Lysh, cylchgrawn digidol ar gyfer merched yn eu harddegau cynnar a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Rily o Gaerffili a’i olygu gan Llinos Dafydd; a Cara, cylchgrawn ar gyfer menywod o bob oed, a fydd yn cael ei olygu gan Meinir ac Efa Edwards, tîm mam-a-merch o Landre, Ceredigion a Chaerdydd.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:
“Mae cael portffolio eang o gylchgronau yn sylfaenol i gynnal diwylliant hyfyw ac yn gyfraniad uniongyrchol i ledaenu defnydd o’r iaith. Mae’r cylchgronau hefyd yn cynnig cyfle i ymdrin â phynciau amrywiol drwy’r Gymraeg ac i hybu trafodaeth am faterion y dydd.”
Bydd dau gylchgrawn digidol arall, Mam Cymru a Parallel.cymru, yn derbyn nawdd unwaith ac am byth i gryfhau yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig.
Bydd cyfnod y trwyddedau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2019.
– llun Cyngor Llyfrau Cymru cllc.org.uk
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.