Adam Price yn llongyfarch yr Albanwyr am eu Parhad

Newyddion

SNP 1 Llafur 0?

Dyw penderfyniad Prif Weinidog newydd Cymru Mark Drakeford i gael gwared ar Ddeddf Parhad Cymru ddim yn edrych mor glyfar nawr wrth i’r Alban ennill cefnogaeth y Goruchaf Lys i’w Deddf Parhad hwythau.

Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ymysg y cyntaf i’w llongyfarch,

““Rwy’n llongyfarch Llywodraeth yr Alban ar eu buddugoliaeth yn y Goruchaf Lys. Mae cyfiawnder cyfansoddiadol wedi gorfu,” meddai ef.

“Gweithred gyntaf y Prif Weinidog newydd hwn fydd i ymddiheuro am ildio grym Cymru i anrhefn llywodraeth San Steffan… holl ddadl Mark Drakeford dros ddiddymu Deddf Parhad Cymru [oedd] y byddai Llywodraeth yr Alban yn colli’r achos Goruchaf Lys dros eu mesur cyfatebol nhw. ”

OND –

“ Fe enillodd yr Alban sydd yn golygu bod eu pwerau nhw â gwarchodaeth gyfreithiol. Cymru sydd felly yn canfod ei hun heb ddim heblaw cytundeb gwael sydd yn rhoi pwerau Cymru i ffwrdd i weinidogion Torïaidd heb unrhyw warant y cawn ni nhw yn ôl.”

Fel y gwelwyd yn ddiweddar ar y rhaglen ddogfen yn dilyn hynt a helynt AS Carwyn Jones o gwmpas Prydain Fawr, cred Llafur oedd bod hi’n well chwarae hi’n saff a chymryd yr hyn oedd ar gael gan Lywodraeth San Steffan wedi bygythiad Brecsit ac nid hapchwarae am fwy.

Ond pa chwarae yn saff sydd pan mae dyfodol Cymru yn y fantol?

Meddai Adam Price mai Cymru bydd yn talu’r pris:

“Yr hyn sy’n gwneud y sefyllfa’n waeth yw nad oedd anghenraid i ddiddymu Deddf Parhad Cymru cyn cyhoeddiad heddiw. Fe ildiodd rhy gynnar yn sgil ymostyngiadrwydd annealladwy i San Steffan, gan adael Cymru i dalu’r pris.”

“Mae gweithredoedd Llafur wedi gadael Cymru ar drugaredd llywodraeth Dorïaidd wallgo San Steffan.”

A fydd Cymru yn camu tuag at ddatganoli a ffederaleiddio pellach dan lyw ein Prif Weinidog newydd?  Amser a ddengys; ond ymddengys mai dyna’r adnodd mwyaf prin yng ngwleidyddiaeth heddiw.

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau