Mae dyn ifanc yng Nghaerdydd, Aled Thomas yn ymgyrchu i gynnwys tafodieithoedd ar gwricwlwm ysgolion Cymru fel y gall disgyblion fod yn ymwybodol o dafodieithoedd amrywiol yn ogystal â dod i arfer â nhw a defnyddio’u tafodiaith leol.
Mae’n gweld lle amlwg i archif Sain Ffagan wrth ddysgu amdanynt, ond nad rhywbeth ar gyfer archif yn unig yw’r recordiadau:
“Nid rhywbeth ysgrifenedig a ffurfiol yn unig yw’r Gymraeg. Dylai recordiau’r archif bod yn cael eu defnyddio bob dydd ar lawr gwlad. Mae addysg Gymraeg yn greiddiol i nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae’n bwysig nad yw addysg Gymraeg yn gwneud y Gymraeg yn unffurf.
“Mae gan ysgolion rôl i sicrhau defnydd o dafodiaith eu cymuned leol, fydd yn rhoi mwy o werth bob dydd i’r iaith.”
Er bod gan Aled, a symudodd i Gaerdydd o Orllewin Cymru yn 8 oed, ddiddordeb mewn tafodieithoedd ers blynyddoedd, cafod Archif Tafodieithoedd Cymraeg Sain Ffagan gryn effaith arno.
Yng nghasgliad Robin Gwyndaf o recordiadau o dafodieithoedd Cymraeg digwyddodd ddod ar draws recordiad o sgwrs gydag un o’i berthnasau. Roedd William Jones yn sôn am ei brofiadau o fyw yng Nghenarth yn bysgotwr ar gwryglau.
Ond dim ond wedi iddo siarad â pherthnasau yng Ngorllewin Cymru y daeth Aled i wybod fod William Jones yn perthyn iddo.
“Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn nhafodieithoedd Gorllewin Cymru oherwydd cysylltiadau teuluol, ond roedd cael gwybod bod Williams Jones yn perthyn i ni yn gyd-ddigwyddiad anhygoel a’r profiad yn fwy unigryw a phersonol i fi. Rwy’n falch iawn iddo allu cyfrannu at yr archif, sy’n casglu cymaint â phosibl o dafodieithoedd.”
Ceir mwy o hanes archif sain Sain Ffagan ar raglen arbennig i Radio Cymru gan gwmni cynhyrchu dai:lingual d.iau yma am 12:30yp, sef #SainSainFfagan .
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.