Dyfarnwyd £1,351,066 i Mind Cymru a’r Groes Goch Brydeinig er mwyn cyflawni prosiectau iechyd meddwl ar draws Cymru.
Bydd y Groes Goch Brydeinig yn cynnal cynlluniau peilot ar gyfer oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl isel i gymedrol ac sy’n defnyddio gwasanaethau meddyg teulu neu ambiwlans yn rheolaidd yn Sir Benfro a Chaerffili.
Fe fydd Mind Cymru yn gweithio gydag oedolion sydd wrth eu hunain, yn unig ac mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl gwael yn ardaloedd Taf Elai, De Powys a Gogledd Sir Ddinbych. Bydd gweithwyr cyswllt yn gweithio gyda chleifion i ddatblygu cynlluniau cymorth penodol i’w cyflawni’n lleol.
Am wybodaeth bellach : mind.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.