Dau Gi Bach yn Arwain Ymgyrch Godi Arian i Gylchoedd @MudiadMeithrin

Diwylliant / Hamdden Newyddion

Bydd ‘Dau Gi Bach’ yn mynd i godi arian ar ran Mudiad Meithrin yn ystod wythnos 1-7 Hydref!

Mae hyn yn dilyn ymgyrchoedd llwyddiannus tebyg Mudiad Meithrin gan gynnwys
torri record y byd wrth gynnal ‘Parti Pyjamas Mwyaf y Byd’ a ‘Rhywbeth Neis Neis i De’.

Nod gweithgareddau’r ymgyrch sydd wedi’i seilio ar yr hwiangerdd ‘Dau Gi Bach’ yw codi arian ar gyfer y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a Meithrinfeydd Dydd.  Fe fydd y cylchoedd yn trefnu teithiau cerdded, neu deithiau natur lleol i deuluoedd i goedwig, llwybr natur, neu i barc gan godi tâl ar y teuluoedd am gymryd rhan.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Rydyn ni’n ceisio cynorthwyo’r darpariaethau i gynnal digwyddiadau codi arian nid yn unig fel cyfrwng i’w cynnal fel busnes ond fel cyfrwng i gael teuluoedd ynghyd i fwynhau cymdeithasu gyda’i gilydd, i ddod â’r Gymraeg yn fyw ac i greu ymdeimlad eu bod i gyd yn perthyn i ‘un teulu mawr’ y Mudiad.”

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi noddi’r ddwy gystadleuaeth sydd yn rhan o’r ymgyrch sef cystadleuaeth i blant y Cylchoedd Meithrin i greu crefft 3D gan ddefnyddio hen focs esgidiau, a chystadleuaeth sy’n agored i unrhyw blentyn i greu llun cefndir i’r ddau gi bach.

Cynhelir ymgyrch ‘Dau Gi Bach’ Mudiad Meithrin yn ystod wythnos 1-7 Hydref.  Dilynwch @mudiadmeithrin ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth bellach.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau