Cyfaill i’r #Cymro – ac aelod o @Cymdeithas – yn galw am gwricwlwm newydd i annog tafodieithoedd Cymraeg

Newyddion

Mae Aled Thomas, awdur llythyr y mis i’n rhifyn mis Ebrill 2018, wedi galw am fwy o gamau i sicrhau bod mwy o elfennau Cymraeg wedi’u cynnwys yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Daw hyn yn dilyn ei lythyr ar yr un thema at sylw golygyddion Y Cymro ac wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu cwricwlwm newydd i 2022.

Ysgrifennodd Aled Thomas, sydd yn byw yn y De-Ddwyrain ond a gafodd ei fagwraeth gynnar yng Ngorllewin Cymru, lythyr fel aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg at Brif Weithredwyr yr holl Gonsortiau Addysg yng Nghymru. Yn ei lythyr, awgrymodd y dylid rhoi rhagor o bwyslais ar sgiliau llafar yn y cwricwlwm newydd gyda thafodieithoedd yn cael mwy o amlygrwydd yn y Cwricwlwm newydd.

Dywedodd: “Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu un continwwm dysgu Cymraeg yn bwysig iawn i ni fel sefydliad. Rydym yn awgrymu y gellir gwella gwerth ac ansawdd addysg cyfrwng Cymraeg trwy gynyddu’r pwyslais ar dafodiaith yr ardal wrth ddysgu’r iaith. Mae’r cwricwlwm cyfredol yn ei gwneud yn ofynnol bod disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng Cymraeg llafar ffurfiol ac anffurfiol. Felly, i gyflwyno disgyblion i iaith anffurfiol, ymarferol gyda’r bwriad o’u cymell i ddefnyddio’r iaith yn rheolaidd bob dydd, dylid dysgu mwy am y dafodiaith leol a’r rhanbarth lle maen nhw’n byw. O ganlyniad, byddai disgyblion yn gallu defnyddio iaith safonol yn ysgrifenedig yn ogystal â’r dafodiaith sy’n gysylltiedig a’u cymuned a’i ddefnyddio yn eu rhanbarth ac yn y cartref. “

Mae Aled o’r farn bod angen sicrhau bod disgyblion yn hyderus yn eu Cymraeg llafar ar lefel anffurfiol ac i’w hannog i ddefnyddio’r iaith bob dydd. Gallai’r addasiad hwn helpu i ddiogelu etifeddiaeth ieithyddol arbennig eu rhanbarth hefyd.

Dywedodd y byddai’r addasiad hwn i’r cwricwlwm yn sicrhau y byddai disgwyl i athrawon addysgu disgyblion am ddylanwad eu hardal ar yr iaith yn y gobaith y bydd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o siarad Cymraeg bob dydd.

Dywedodd Aled i’r Cymro; “Wrth i ni feddwl am ffyrdd o gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a mynd tuag at darged y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rwy’n credu’n gryf mai dyma un o’r ffyrdd ymarferol o gyflawni’r nod.”

Ychwanegodd : “Cefais fy ysbrydoli pan glywais recordiad o aelod o’r teulu yn yr archif tafodieithoedd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae’r adnoddau hyn yn cynnig cyfle da i selio’r galw am fwy o dafodieithoedd fel rhan o addysgu pobl ifanc i siarad Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. “

Mae’r grŵp wedi ysgrifennu at Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg, pob consortiwm addysg yng Nghymru a Llywodraeth Cymru am ei ymgyrch.

Mewn ymateb i lythyr gan Mr Thomas, ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg: “Ar lefel gyffredinol, mae’n hollbwysig rhoi sylw i’n tafodieithoedd, ac wrth gwrs dylent gael eu diogelu a’u trysori.. mae gan y sector addysg yng Nghymru rôl bwysig i’w chwarae yn y cyd-destun hwn. Awgrymaf eich bod chi’n parhau i drafod eich syniadau gyda’r Llywodraeth wrth iddynt arwain y gwaith o lunio’r cwricwlwm newydd.

“Mae’n eithaf posibl y byddai mwy o gynnwys yn y cwricwlwm ar gyfer tafodieithoedd lleol yn helpu yn y cyd-destun hwn, ond dylid gwneud hyn yng nghyd-destun strategaeth ehangach.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd pobl yn cael cyfle i ymateb i’r cwricwlwm cenedlaethol drafft o fis Ebrill 2019 ac, hyd nes y bydd y broses ymgynghori honno wedi’i chwblhau, ni fyddai’n briodol iddynt gynnig unrhyw addewidion am gynnwys y cwricwlwm newydd.

Ond beth yw eich barn chi?  A fedrwch chi ddatgelu hynny trwy ddatgloi ein system sylwadau isod…?  Byddwch wych, byddwch gyntaf i roi sylw…

#YCymro

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

Tagged

Gadael Sylw

avatar
500

Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro. Tra'n credu'n gryf mewn rhyddid barn, gofynnwn yn garedig i chi osgoi sylwadau enllibus, anwir, camanweirol neu fwriadol fygythiol. Os ydych yn teimlo fod sylwad yn cynnwys un o'r elfennau yma plis adroddwch hynny drwy glicio ar y linc. Gofynnwn i chi ddim ond wneud hyn ar gyfer cwynion difrifol. Cadwn yr hawl i ddileu cynnwys neu gyfrifon sydd yn torri'r canllawiau yma yn fwriadol. Neu i'w roi o ffordd arall, triwch fod yn weddol neis i'ch gilydd os yn bosib.

  Tanysgrifio  
Gadewch wybod