Dyma rifyn cyntaf Y Cymro ers ei ddiflaniad ym Mehefin 2017. Rydym yn hynod falch o’r cyfle i sefyll yn y bwlch er mwyn rhoi llais newydd i bapur cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw gosod llwyfan annibynnol cadarn ar gyfer barn a dadansoddiad teg o’r newyddion, gan fwrw golwg ar y materion sy’n bwysig i Gymry Cymraeg ac i’r Gymru newydd.
Ein nod hefyd yw hybu plwraliaeth drwy amlygu’r amrywiaeth a’r rhyddid barn sydd yn gwneud Cymru yn wlad mor unigryw ac arbennig. Mae cymdeithas rydd ac agored yn dibynnu ar yr elfennau yma i oroesi a ffynnu. Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar.
Mae un o brif leisiau Cymru, Tecwyn Ifan , eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i’r Cymro newydd:
“Mae’r Cymro yn parhau i fod o bwys mawr i Gymry Cymraeg, yn rhoi llais Cymraeg a Chymreig i newyddion o Gymru a thu hwnt. Rwy’n croesawu’r newyddion yma -bod papur-newydd ein cenedl ar gael unwaith eto ar ei newydd wedd.”
Croeso yn ôl felly i ddarllenwyr hen a newydd Y Cymro.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.