Wel, wel, mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd. Sefyll mewn cae Cymreig a Chymraeg. Ac i’r selogion go iawn, breuddwydio am gawod deche; a phaned o de mewn man le mae’n OK i alw Welshcake yn Welshcake. Dyma tri tip arall i oroesi Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst.
1. Peidio mynd i’r Pafiliwn.
Perffeithrwydd maes e oedd ei fod fel yr Eisteddfod heb y barnu na’r cystadlu, sut well felly i ail-greu teilyngdod arlein y Cymraeg-tod hwnnw na osgoi’r Pafiliwn yn hollol? – o’r dechrau hyd y diwedd. Philistaniaeth, Amen.

2. Rhegi yn Gymraeg
Anodd iawn ydyw i ddysgu holl reolau cynganeddu mewn wythnos, ond mae rhegi fel Cardi mewn hen Waitrose Y Barri o fewn eich gafael, bois bach. Astudiwch ganllaw dai lingual i regfeydd Ceredigion fel man cychwyn, was.

3. Prynu’r Cymro
Bydd copi newydd o’r Cymro mis Awst 2019 yn gobeithio i gyrraedd Y Maes erbyn tua chanol yr wythnos, felly cadwch lygad barcud amdano.
I’r rhai na fydd ar Y Maes (achos fe fyddant yn rhegi yn y Pafiliwn, falle) tanysgrifiwch fan hyn os gwelwch yn dda : https://ycymro.cymru/tanysgrifio/

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.