Cynhaliwyd diwrnod arbennig a chwbl unigryw gan Gymdeithas yr Iaith i bontio cymunedau ifanc a chreadigol Cymraeg a Gwyddeleg yn Neuadd y Farchnad Caernarfon.
Enwyd y digwyddiad yn ‘Prosiect Bendigeidfran’ gan i’r cymeriad yn y Mabinogi ddefnyddio’i gorff i greu pont rhwng Cymru ac Iwerddon. Bwriad y dydd oedd rhannu syniadau a dysgu am ein gilydd a’n tebygrwydd – a chael hwyl!
Gan nad oedd pont enfawr ar gael, fe ddaeth criw o Wyddelod ar y cwch i Gaergybi. Yn gyntaf cynhaliwyd gwers hwyliog ac anffurfiol gan Seaghan Mac an tSionnaigh, Darlithydd o Brifysgol Uppsala, ac yna fe wnaeth Joe Mitchell sôn am ei eiriadur Cymraeg-Gwyddelig. Eglurodd iddo ysgrifennu’r geiriadur fel y byddai gan siaradwyr Cymraeg fynediad i gyfleuster Gwyddeleg heb droi at y Saesneg.
Dilynwyd y wers gan sgwrs rhwng Hywel Pitts, Seán T Ó Meallaigh ac Eoin P O’Murchu ar ran GaelGÁIRÍ, cymuned o ddigrifwyr sy’n cynnal nosweithiau stand-up yn y Wyddeleg o gwmpas Iwerddon.
Yna roedd sesiwn barddoniaeth byw ‘gair ar lafar’ ar y cyd rhwng Seaghan Mac an tSionnaigh a’r bardd arbrofol Rhys Trimble. Roedd gan Rhys ffon fawr i’w tharo yn rythmig wrth adrodd barddoniaeth sillaf, sy’n gysylltiedig â’r traddodiad barddol Cymraeg. I ddilyn, roedd trafodaeth rhwng golygyddion cylchgronau creadigol annibynnol Y Stamp (Iestyn Tyne a Llŷr Titius) a Mionlach (Cathal Peelo a Katie McGreal) a gadeiriwyd gan Lowri Ifor (Codi Pais). Rhannwyd awgrymiadau dosbarthu a dylunio, a siarad ar nifer y copïau a werthwyd. Nodwyd bod y cylchgronau hyn yn fodd i ymdrin â llawer o bynciau nad yw pobl yn aml yn cael y cyfle i ddarllen amdanynt mewn mannau eraill.
Roedd Katie McGreal yn falch iawn o gyfleoedd y dydd. Dywedodd ei bod yn “dda cael y cysylltiad hwn â’r gwledydd Celtaidd. Rwy’n credu ei fod yn gyfle gwych i ddysgu a gweithio gyda’n gilydd. Os oes gennym gyfle, dylem gefnogi ein gilydd.”
Bu beirdd ifanc Cywion Cranogwen (Bethany Celyn, Judith Turner a Sara Green) a Ciara Ní É ó Reic yn rhan o sesiwn i drafod mynd ati i drefnu eu hunain, gwneud darlleniadau gyda’i gilydd ynghyd â gwahodd beirdd newydd i gymryd rhan.

Ar gyfer sesiwn olaf y dydd, fe wnaeth Manon Dafydd a Lowri Ifor o gylchgrawn Codi Pais gynnal gweithdy gwneud ‘collage’ ar sut mae cyfleu eich neges drwy ddelweddau a chelf.
Gyda’r nos cafwyd cyngerdd gydag ystod eang o gerddoriaeth gyfoes yn y Gymraeg gan DJ Rhys Spikes, Dienw, Pasta Hyll a 3 Hŵr Doeth. Roedd y bandiau hip-hop Kneecap a Vigilanti, bandiau o Belfast a Dinas Derry i fod i chwarae, ond fe gollon nhw eu hediad. Sôn am ‘roc-a-rôl’, neu ‘hip-hop’ ddylwn i ddweud!
Y cam nesaf felly? Roedd Ciara Ní É yn gobeithio gallu adeiladu ar berthynas:
“Rydym yn gobeithio y bydd y math yma o beth yn Iwerddon yn y dyfodol, digwyddiad a fydd yn rhoi gwybodaeth i’r Gwyddelod ar y Cymry. Dylem ddilyn yr un patrwm a’r pethau gwych mae nhw’n eu gwneud.”
gan Bethan Ruth
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.