#CofiwchDryweryn – Dyma ein Hanes a’n Hunaniaeth

Diwylliant / Hamdden

Ers mis a mwy mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn llawn sôn a siarad am y degau o furluniau “Cofiwch Dryweryn” sydd wedi codi dros Gymru yn sgil y difrod i’r murlun gwreiddiol. Mae’r Cymro i fis Mai 2019 yn cymryd cipolwg ar yr ymateb…

‘Y ffordd orau i ymateb i’r difrod ofnadwy i furlun Tryweryn yw i ni weld 100 o furluniau newydd – lliwgar, hyderus – yn codi ym mhob cwr o’r wlad dros Gymru Rydd’

Dyna oedd geiriau proffwydol arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi i rywrai ddymchwel rhan o’r wal ger Llanrhystud, lle cafodd y murlun eiconig gwreiddiol ei baentio gan y diweddar awdur ac academydd Meic Stephens yn y 1960au.

O fewn oriau iddo gyhoeddi ei sylwadau ar Twitter, roedd y brwshys a’r tuniau paent allan, yn barod i ateb ei gri.

Bellach mae dros 50 o enghreifftiau o’r murlun adnabyddus wedi codi fel madarch yma ac acw ar hyd a lled Cymru, ac nid yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn unig.  Ydy wir, mae’n ymddangos fod Adam Price wedi taro tant efo’i sylwadau.

Mae’r pwnc yn sicr wedi codi ymwybyddiaeth o’n hanes a’n hunaniaeth ac mae cyfryngau cymdeithasol y Cymry wedi bod yn llawn trafodaethau ynglŷn ag arwyddocâd y murlun a’i swyddogaeth heddiw, hanner canrif wedi boddi Capel Celyn.

Byth ers difrodi’r murlun ym mis Chwefror, pan baentiodd rhywun dros y geiriau Cymraeg a rhoi ‘Elvis’ yn eu lle, mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel.  Ond fel yn achos yr un gwreiddiol ger Llanrhystud mae rhai o’r murluniau newydd ar draws y wlad wedi cael eu difrodi, a sloganau Saesneg wedi cael eu paentio arnynt.  A chafodd un murlun yng Nglannau Dyfrdwy, ei orchuddio gyda phaent gwyn, am ei fod – yn ôl swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru – yn tynnu sylw gyrwyr.

Ac fel y mae nifer wedi’i bwysleisio, mae’r slogan yn fwy na geiriau ar wal. Maen nhw’n cynrychioli rhan bwysig o’n hanes.

#CofiwchDryweryn 

 

TANYSGRIFIWCH I’R CYMRO FAN HYN : ycymro.cymru/tanysgrifio/

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau