Cafwyd gig hynod yn y London Palladium neithiwr (nos Wener) ble gwelwyd Côr y Penrhyn o Ddyffryn Ogwen yn helpu i gloi taith ddiweddaraf y band The Good, the Bad & the Queen.
Perfformiodd y côr ar bedair cân, yn cynnwys eu prif gân adnabyddus ‘Lady Boston’, gan hefyd berfformio y gân boblogaidd Moliannwn gan Bob Roberts Tai’r Felin (trefniant Owain Arwel o’r alaw wreiddiol gan Benjamin Thomas neu Ben Jeri) yn ystod yr egwyl.
Mae’r côr wedi perfformio gyda’r band, a ddechreuwyd gan brif ganwr Blur ynghyd a cherddorion enwog eraill megis Paul Simonon o’r Clash, o’r blaen, gyda pherfformiad arbennig yn Blackpool yn 2018 hefyd yn ennyn llawer o ganmoliaeth. Fe chwaraeoedd The Good, the Bad & the Queen yng Nghaerdydd wythnos ynghynt yn ogystal.
Roedd yr actor Rhys Ifans hefyd yn cyflwyno ac yn arwain y noson.
(Lluniau: Laura Nunez)
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.
Diolch am yr erthygl. Dim ond nodi mai Benjamin Thomas neu Ben jeri ydi awdur y gan Moliannwn. Diolch