Gan Gruffydd Meredith
Tybed oes angen Cymdeithas yr Iaith Saesneg i warchod hawliau dinasyddion Lloegr rhag gormod o ddefnydd Cymraeg yn Lloegr?
Dros y blynyddoedd, megis hud a lledrith a thrwy ddirgel ffyrdd, mae nifer cynyddol o arwyddion Cymraeg wedi ymddangos yn Lloegr heb fod neb cweit yn siŵr pam na sut.
Ac nid yn unig ar ddiarwybod droed ond mewn ffyrdd mwy amlwg hefyd. Er enghraifft, erbyn hyn mae’r Gymraeg yn un o chwe dewis iaith swyddogol ar beiriannau archebu bwytai McDonalds ar draws Prydain, gan gynnwys gwlad y dawnswyr Morris – o Bromley i Newcastle, o Titty Ho i Boggy Bottom (oes mae’r ffasiwn lefydd yn bodoli).
Ar y raddfa yma fydd hi ddim yn hir nes bydd y Gymraeg yn goresgyn Lloegr unwaith eto, fel yr oedd yn yr oesoedd a fu drwy ynys Prydain a thŷ hwnt.
Reit, y cam nesaf fydd sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei dysgu ar gwricwlwm addysg Lloegr a’r Alban. Wedyn, yn araf deg, fe fydd y Thames yn troi nôl i’r Tafwys, Glasgow nôl i Glas gae a Strictly Come Dancing yn newid i Dawnsio fel Diawl.
Dyma ambell enghraifft o’r ffenomenon ryfeddol yma o’r Gymraeg yn dechrau ailfeddiannu tiroedd Lloegr ddaeth Y Cymro ar eu traws yn ddiweddar:
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.