Wyn Williams o Gyfeillion Y Cymro a hedfanodd draw i’r Bala er mwyn cwrdd ag un o gerddorion fwyaf dawnus Cymru; Cass Meurig; sydd yn chwarae’r crwth a’r ffidil ac yn gantores gwerin.
Wyn Williams : Sut ddaethoch chi yn rhan o’r byd gwerinol yng Nghymru?
Cass Meurig: Tyfais i fyny yn chwarae cerddoriaeth werin, a hefyd yn cael fy hyfforddi yn glasurol yr un pryd. Oedden ni fel teulu yn chwarae pethe gwerin – doedden ni ddim yn ystyried o’n werin; oedd o’n rhan o beth o’n ni neud fel teulu…felly dw i wastad wedi gwybod yr alawon gwerin. Ond, nes i ymddiddori’n fwy yn y rhai Cymreig – symudais i Gymru yn fy ugeiniau a dysgu Cymraeg a ballu; adeg yna nes i gael y diddordeb mawr a nes i symud i fyw ger Llanberis, Cwm y Glo : ac oedd yna dipyn o gerddorion gwerin ffor’na, felly oedd yna dipyn o sesiynau ac ati.
WW: Sut ydych chi’n dewis eich prosiectau?
Cass Meurig: Dwi ddim wir yn creu cynllun o ran beth i chwilio amdano nesaf fel cerddor…fedra i ddim dweud bod gen i ryw masterplan o ble dwi’n mynd nesaf. Y prosiect ar hyn o bryd dw i wedi bod yn gweithio arno yw’r caneuon Cristnogol; dyna be dw i wedi bod yn sgwennu yn ddiweddar ar alawon gwerin. Mi ddes i CD allan yn ddiweddar o rheina, felly hynny sydd wedi mynd â’r sylw am ychydig o flynyddoedd bellach.
Ond, pan ddoth John i gyswllt efo’r prosiect yma, Atgyfodi a’r hen alawon, oedd hwnna wir yn apelio yn fawr oherwydd ma’ genna i ddiddordeb erioed yn yr hen ddefnydd. Oeddwn i’n hoffi bod ganddo gyswllt personol fel petai efo’r bobl yma oedd wedi canu ers talwm. Ac efo’r crwth a’r ffidil hefyd, dw i wedi ymddiddori yn fwy yn trio ffeindio alawon gwahanol yn hytrach na jyst y standard repertoire fel petai – fod rhywun yn mynd ar ôl y rhai sydd yn dod o rywle – neu sydd efo rhyw gyswllt efo rhywle – felly ddim yn aml fydda i neud prosiectau fel yna; dwi’n tueddu i fynd ar ôl pethau ar liwt fy hun fwy. Ond, oedd hwnna yn apelio oherwydd ei fod yn ddiddorol, a bod yna wahanol onglau i’r peth.
WW: Sut mae plethu’r diwylliant gwerinol gyda bywyd crefyddol Cymru o ystyried hanes ein gwlad ac effaith y Diwygiad ar y byd gwerinol?
Cass Meurig: Wel, dwi ddim yn ymddiheuro o gwbl o ran defnyddio alawon gwerin efo geiriau Cristnogol, oedd yna draddodiad erioed roedd yr hen emynyddion – roedden nhw yn defnyddio alawon gwerin ar gyfer emynau newydd erioed. Os edrychwch chi ar ganeuon ffydd, mae yna ddigon ohonyn nhw yn dweud alawon Cymreig felly oes mae yna ddadl…mae o’n wir fod y Diwygiad wedi lladd lot ar y diwylliant gwerin – mae hwnna yn berffaith wir – ond ar yr un pryd, mae yna’r ffrwd yna sydd wedi cadw rhai o’r alawon yn yr emyn donau; ac mae pobl yn anghofio hwnna weithio.
Hefyd ma’ nhw’n anghofio bod yna draddodiad – traddodiad y penillion – yr hen benillion felly: bo’ chi’n gallu gosod rhywbeth ar unrhyw alaw – dyw e ddim fel y baledi, dim fel y rhai Saesneg. Neu, erbyn hyn ni’n dueddol o feddwl am y gân Lisa Lân ydy Lisa Lân fath o beth – dyna’r geiriau sydd yn mynd hefo hi oherwydd mai dyna’r rhai sydd wedi eu cyhoeddi.
Go iawn, nid fel’na oedd hi, roedd yna alawon ac roedd pobl yn cyfansoddi penillion arnyn nhw roedd rhai yn grefyddol, mae ganddoch chi’r traddodiad Plygain ac yn y blaen, ac roedden nhw’n gosod nhw ar rywbath oedden nhw yn gwybod. Dwi’n teimlo fy mod i’n sefyll yn y traddodiad yma, a rwy’n gwbl gyffyrddus yn y traddodiad yna hefyd.
WW: Sut ddaethoch chi i fod yn arbenigwraig ar y crwth?
Cass: O’n i’n astudio’r ffidil, hanes y ffidil yng Nghymru – ffidil dwi’n chwarae hefyd, de erioed – ac o’n i’n neud ymchwil i hanes y ffidil yng Nghymru, achos oedd hi’n un o brif offerynnau’r Cymry ar un adeg. Wrth fynd ar hyd y trywydd yna wrth gwrs rhagflaenydd y ffidil oedd y crwth, ac roedd y ddau yn bodoli yr un pryd am ryw ganrif o leiaf o gwmpas yr 17eg ganrif. Ac felly fel o’n i’n mynd ar ôl yr alawon fwyaf hynafol a hanes y ffidlwyr yma. O’n i’n dod ar draws mwy a mwy o gyfeiriadau at y crwth a’r alawon crwth ac yn y blaen, a wnaeth un peth dilyn y llall ac yn y diwedd o’n i’n meddwl fyse fe’n ddiddorol iawn i ddysgu i chwarae’r crwth. Ac un person ar y pryd oedd yn cymryd y crwth o ddifri, sef Bob Evans, ac es i weld Bob Evans a dyma fo’n rhoi fi ar ben ffordd…
Wedyn wrth gwrs oedd rhaid i fi gael neud crwth – fedrwch chi ddim prynu crwth oddi ar y silff – neu mae’n bosib y medrwch chi fedrwch chi ar eBay erbyn hyn!
Ond ar y pryd oeddach chi methu, a ges i neud un sydd yn replica union o’r crwth yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ac wedyn, y job wedyn oedd dysgu chware hi, ac o’n i’n meddwl ar y pryd “O, bydd o’n hawdd, dw i’n chwarae’r ffidil, fydd o’n fawr o job i chware’r crwth…” – anghywir!
Oedd o’n hollol, hollol wahanol. Oedd o’n cymryd flynydde imi cael fy mhen rownd sut mae’r offeryn eisiau cael ei chwarae. Ac wrth gwrs wedyn does ‘na ddim manual yn dweud wrthoch chi sut i chware’r peth a ma’r traddodiad wedi marw, ac wedyn wedi cael ei atgyfodi, mae yna lot o ddeunydd allan fan yna mewn llawysgrifau ac ati. Mae yna lawer o ddisgrifiadau o’r sŵn a disgrifiadau barddol ac ati, felly mae yna lot o ddeunydd i weithio hefo fo, ond eto dysgu eich hun ydych chi rili.
WW: A hithau nawr yn nesáu at y Nadolig, beth ddylai’r Cymry gwybod am y Plygain, ac ydy’r traddodiad wedi newid llawer?
Cass: Mae’r traddodiad o’r Plygain yn reit unigryw i Gymru, mae’n un o’r ychydig rai sydd wir ddim yn bodoli nunlle arall hyd y gwydda i. Mae yna garolau sydd yn reit unigryw, a hir iawn. Mae yna repertoire o alawon yn perthyn iddyn nhw, felly ma’ nhw wedi cadw rhyw alawon sydd ddim rili yn cael eu harddel llawer iawn unrhyw le arall – mae’n unigryw iawn. Mae plygeinio ar ei fyny ar hyn o bryd – bu farw bron, doedd ddim llawer ar ôl, ond erbyn hyn mae yna lwythi ohonynt yn y Gogledd beth bynnag – dw i ddim yn siŵr am y De, ond ffor’ hyn ma na lot fawr o blygeiniau; a wir ma nhw wedi cadw yr hen draddodiad. Mae gennych chi bartïon a rhai yn fwy traddodiadol na’i gilydd o ran y sain; os glywch chi’r hen fois ma’r sain yn eitha’ cras mewn ffor’ – ma’ nhw’n bloeddio canu, a ma’na rywbeth…o dwi wrth fy modd efo’r sŵn yna!
‘Da chi’n tueddu i gael Plygain tipyn bach mwy gwaraidd dyddie hyn, efo mwy o garolau modern i mewn yn y mics hefyd, ond mae’n dibynnu le ewch chi rili. Wrth gwrs dynion oedd yn canu i gyd ers talwm hyd y gwydda i, ac mae gennoch chi bartïon merched ac yn y blaen erbyn hyn, felly mwy o gymysgedd nac oedd yna mae’n siŵr – ond eto yr un traddodiad ydy o, pobl yn cymryd dod ymlaen â charol ac eistedd lawr a ma yna rhyw etiquette – pwy sy’n mynd pryd, a ma rhaid ichi ddisgwyl eich tro a gobeithio bod neb yn dwyn eich carol; mae o’n hwyl, mae’n eitha’ hardcore ! Mae’n gallu bod yn wasanaethau hir. Mae’n arbennig iawn dwi’n meddwl.
WW: Sut glywsoch chi am brosiect ‘Atgyfodi’ y cyfansoddwr Cymreig John Rea?
Cass: Wel, o ran Atgyfodi John ‘naeth cysylltu efo fi sawl blwyddyn yn ôl, a dwi’m yn siŵr os oedd y prosiect wedi ffurfio yn ei ben adeg hynna, ond oedd o wedi dod ar draws rhyw ddeunydd archif yn Sain Ffagan ac roedd o wedi ysbrydoli gan y deunydd a gan leisiau’r hen bobl yma. A dw i’n meddwl y cyswllt personol efo’r bobl oedd o’n teimlo…bod o’n perthyn rywsut, ac oedd ganddo ddiddordeb defnyddio rhywfaint o’r deunydd archif yma a chael cerddorion i chwarae efo’r hen bobl yma. Roedd hynny yn apelio ata i ac felly dyma fi’n mynd â’r ffidil a’r crwth dwi’n meddwl a rhyw fyrfyfyrio ar rywbeth dros y deunydd archif yma, ac oedd o’n hyfryd, hyfryd i glywed yr hen leisiau yma, bendigedig de!
A nes i ddim clywed llawer iawn ar ôl hwnna am gwpwl o flynyddoedd, ac wedyn dwi’n credu bod y syniad wedi ffurfio yn fwy o brosiect gweledol hefyd yn fwy o gyngerdd felly; ac adeg yna wnaeth o ail-gysylltu a gofyn a tasen i yn gallu chwarae tipyn bach o’r crwth hefyd. Dw i wedi mwynhau cydweithio efo fo. Mae e wedi bod yn brosiect diddorol.
WW: O feddwl am John Rea ei hun, cyfansoddwr o Gaerdydd; disgrifiwch ef yng nghyd-destun y cyfansoddwr Cymreig megis Grace Williams a Carl Jenkins?
Cass: Cyfansoddi ar gyfer ffilmiau ac ati mae o dwi’n meddwl, yndydi, yr hyn dwi wedi clywed mae sŵn reit gerddorfaol…ma’na lot o gefndir, lot o wahanol offerynnau yn y mics, a lot o awyrgylch i’r peth felly mae o wedi cyfuno yr ochr sy’n swnio fel cerddoriaeth ffilm – be nes i glywed – ma wedi cyfuno hwnna efo deunydd crai reit, wel gwerinol iawn. Felly mae hynny yn reit unigryw, dw i ddim yn ymwybodol o neb arall sydd wedi defnyddio y deunydd ei hun – mae pobl fel Grace Williams ac ati wedi defnyddio alawon gwerin yn does; mae yna dipyn o gyfansoddwyr Cymreig wedi seilio pethau ar alawon gwerin, ond dim dyna beth ma John yn ‘neud fi’n meddwl. Mae o’n defnyddio’r deunydd archif ac yn gosod pethau eraill hefo fo, a hyd y gwydda i ma’ hynny yn reit unigryw.
WW:Pa mor bwysig ydy’r cywaith Atgyfodi?
Cass: Ia, dwi’n meddwl bod o’n brosiect reit arbennig. I fi fel cerddor gwerin, mae hi jyst mor braf i weld y deunydd archif allan fanna, achos mae’r stwff yma yn anhygoel mae yna berlau yn Sain Ffagan, a dydi pobl ddim yn gwybod amdanyn nhw ac maen nhw’n perthyn i’r Cymry, ma nhw yn perthyn i chi gyd ac mae o yno yn yr archif yndydi – a ddim yn cael ei glywed, felly dwi jyst yn hynod o falch rili bod y pethau yma yn gweld golau dydd a bod yna rhywun fath â John sydd mor frwdfrydig i gael nhw allan fan’na.
WW: Oes yna wahaniaeth rhwng cerddorion gwerin a chlasurol?
Cass: Dwi’n meddwl bod y rhan fwyaf o gerddorion gwerin yn eitha… cefndir eitha amrywiol iddyn nhw; does dim llawer ohonom ni sydd wir ond erioed wedi chwarae gwerin – ni gyd wedi cael gwersi ysgol neu rywbeth…yn bersonol dwi wedi neud clasurol ar hyd fy oes hefyd…
’Da ni cerddorion i gyd yn hunangyflogedig ac yn neud ein peth ein hunain dwi’n meddwl. Mae’n siŵr bod o’n wahanol yn y byd clasurol, lle ma pobl yn rhan o gerddorfa neu beth bynnag, ond mae’r rhan fwyaf ohonon ni sydd mewn bandiau ac yn chwarae fel unawdydd ac yn y blaen yn ‘neud amrywiaeth o stwff ac yn dipyn bach y tu allan i’r sefydliad. Mae cerddoriaeth werin yn sicr, mae rhan fwyaf ohonom ni y tu allan i’r sefydliad…ac yn bersonol does gen i ddim awydd i fod yn rhan o bethau mwy, dwi jyst yn gwneud beth dwi’n neud.
“Dw i’n teimlo fy mod i wedi gwneud fy stamp fy hun yn yr ochr gwerin yng Nghymru ac ma pobl yn dod ata i ynde fel guru y crwth weithia, sy’n rhyfedd achos dwi dim yn chware lot o’r crwth!”
Erbyn hyn dwi’n gwneud mwy am yr ochor cyfansoddi caneuon a chanu rheina ond ma rhywbeth am Gymru yndydi; unwaith chi wedi neud eich stamp – dydi pobl ddim yn anghofio chi yn sydyn iawn, sydd yn neis mewn ffordd. Mae o’n neis cyfrannu pethau weithiau, ond eto cadw’r hunaniaeth gwerin ydy beth ydyw i’n neud, a dw i ar yr ochr grefyddol hefyd erbyn hyn, felly dwi’n neud beth dwi’n neud a bob hyn a hyn dwi’n cyfrannu at rywbeth arall yndê.
Fe gewch chi glywed mwy am brosiect Atgyfodi y cyfansoddwr John Rea, sy’n cynnwys cyfraniad gan Cass ar y crwth, ar raglen radio dai:lingual i Radio Cymru, Sain Sain Ffagan sydd ar gael i wrando ar alw tan ddiwedd y flwyddyn.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.