Bu i dri awdur yn lansiad llyfrau yn Llanbrynmair yr wythnos ddiwethaf raddio o Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr un flwyddyn, yn ôl yn 2004.
Wrth lansio Cyfres Halibalŵ yn swyddogol, meddai Fflur Aneira Davies, sef golygydd y gyfres a raddiodd o’r un adran yn yr un flwyddyn hefyd
“Rydym wrth ein boddau yn cael cyhoeddi’r llyfrau gwreiddiol hyn
i blant Cymru.Maen nhw wedi’u hysgrifennu gan awduron ifanc
a phoblogaidd sy’n gweithio’n gyson gyda phlant yr oedran hwn, felly maen nhw’n adnabod eu cynulleidfa yn dda.
Bydd y nofelau bywiog, yr hiwmor, a’r lluniau lliw gan arlunwyr talentog,
yn siŵr o apelio at ferched a bechgyn ledled Cymru.”
Mae’r gyfres, sef chwech o nofelau gwreiddiol, llawn hiwmor ar gyfer plant 7-11 oed, wedi’u hysgrifennu gan rai o awduron plant mwyaf poblogaidd Cymru – Syniadau Slei (Mari Lovgreen), Y Tocyn Raffl (Anni Llŷn), Teulu Tŷ Bach (Eurig Salisbury), Project Poli (Gwenno Mair Davies), Tŷ Tomi Treorci (Dafydd Llewelyn) a Iârgyfwng! (Gwennan Evans).
Bu’r awduron yn siarad â llond neuadd o blant ysgolion cynradd Glantwymyn, Carno a Llanbrynmair am eu llyfrau, ac yn cynnal gweithgareddau hwyliog yn seiliedig ar straeon y gyfres. Fe gymeron nhw hefyd ran yn ymgyrch ‘Pawen Lawen’ BBC Radio Cymru yn ystod y digwyddiad.
Ceir syniadau am weithgareddau ysgafn i gyd-fynd â’r nofelau hyn ar wefan Hwb, sy’n addas i oedolion eu defnyddio gyda phlant wrth hybu iaith a llythrennedd mewn ysgolion ac yn y cartref. Cyhoeddir y llyfrau gan CAA Cymru, Prifysgol Aberystwyth, ac fe’u hariennir gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.