Roedd miliynau o bobl wedi gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r mwyafrif helaeth yn gadael dros y don.
Ar Ddydd Sul Tachwedd 11eg, gwahoddir pobl i ymgynnull ar un o nifer o draethau ar lanw isel i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol, gan gynnwys darlleniadau o Y Clwyf Mewn Amser.
Bydd portread graddfa fawr o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei greu ar y tywod mewn nifer o leoliadau – gan gynnwys traethau Abertawe, Bae Colwyn, Aberllydan [Broadhaven] ac Ynys Las yng Nghymru – ac yn cael ei olchi ymaith wrth i’r llanw ddod i mewn.
Yn ogystal, gofynnir i’r cyhoedd ymuno drwy greu silwetiau o bobl yn y tywod, i gofio’r miliynau o fywydau a gollwyd neu a newidiwyd am byth gan y gwrthdaro.
Gwahoddir y cyhoedd hefyd i archwilio oriel bortreadau ar-lein o rai o’r dynion a’r merched a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddewis rhywun i ddweud ffarwél bersonol wrthynt, naill ai trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu drwy fynychu’r traethau ar Tachwedd 11eg.
Rhyddhawyd cerdd newydd gan Carol Ann Duffy a ysgrifennwyd i nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad.
Estynnodd Danny Boyle wahoddiad i Duffy ysgrifennu’r gerdd fel rhan o Pages of the Sea, fydd yn gweld miloedd o bobl yn ymgasglu ar draethau ar draws y Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon am weithred gof fa anffurfiol ledled y wlad ar 11eg o Dachwedd.
Ysbrydolwyd teitl coffadwriaeth Danny Boyle o’r Cadoediad, Pages of the Sea, gan linell olaf soned Duffy ac fe’i comisiynwyd gan 14-18 NOW.
Darllenir The Wound in Time (Y Clwyf Mewn Amser) gan unigolion, teuluoedd a chymunedau wrth iddynt gasglu ar draethau ar Dachwedd 11 ac mae hefyd ar gael ar-lein.
Dywed Danny Boyle:
“Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n ei darllen cerdd Carol Ann Duffy fel unigolion, neu gyda ffrindiau, neu’n gyhoeddus ymysg pobl ar y traeth ar 11 Tachwedd. Roedd barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf yn ffurf gelfyddydol hynod – roedd yn adrodd yn y modd y mae teledu yn ei wneud heddiw ar brofiadau oedd yn anhygoel i bawb gartref.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.