Mae yna alw i un o uchafbwyntiau dathliadau Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn 70 ym mis Hydref – sef perfformiad o’r gwaith Atgyfodi gan John Rea – i deithio dros Gymru at sylw cynulleidfa ehangach.
Fel yr esboniwyd yn arbennig i’r Cymro yn ein rhifyn mis Hydref, yn gyntaf fe gafodd cynulleidfa Atgyfodi y cyfle i gerdded trwy gyfres o osodiadau sain yn adeiladau Sain Ffagan, gan gynnwys athro gwrth-Gymraeg yn yr ysgol a dawnsio clocsiau yn Ffermdy Kennixton.
Bu tipyn o drafod ar y cyfryngau cymdeithasol, a chlod arbennig gan y bardd Judith Musker Turner:
“Noson wefreiddiol a theimladwy yn cydblethu’r gorffennol a’r presennol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig @BBCNOW – llongyfarchiadau John Meirion Rea am #Atgyfodi ”
https://twitter.com/MuskerTurner/status/1053773735591923714
Ceir y galw i’r darn deithio Cymru gan William Aled Jones, gan fod Atgyfodi o bwysigrwydd hanesyddol mewn mwy nag un ystyr;
https://twitter.com/WilliamAled/status/1053382546380259330
Fe fydd yna raglen arbennig, Sain Sain Ffagan ar BBC Radio Cymru ar Ddydd Iau 29ain Tachwedd am 12:30pm gyda hanes y prosiect, a’r perfformiad i ddilyn gyda’r nos yn ystod rhaglen un o Gyfeillion y Cymro, Huw Stephens.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.