Wedi ei chyfnod llewyrchus yn yr 80au cynnar ddod i ben,
#YCymro sy’n gofyn: Pwy sy’n cofio #DwmplenMalwoden?
Nid malwod Cymru, mae’n debyg…
Ydych chi’n cael trafferth cofio beth wnaethoch chi neithiwr? Dychmygwch fyw fel malwoden, ble mae treulio amser gyda ffrindiau yn atgyfnerthu’r cof!
Yn ôl ymchwil gan Dr Sarah Dalesman yn Prifysgol Aberystwyth, mae malwod sydd wedi arfer â chymdeithasu methu cofio mwy na diwrnod ar y tro pan maent yn teimlo yn unig.
Mae ei hastudiaeth wedi arddangos sut y mae unigedd cymdeithasol yn effeithio ar ymatebion malwod i straen.
Dywedodd Dr Dalesman:
“Mae’n hysbys bod unigedd cymdeithasol yn achosi straen i lawer o anifeiliaid a phobl gan achosi newidiadau mewn ymddygiad ac effeithio’n negyddol ar eu gallu i ddysgu a ffurfio atgofion. Serch hynny, mae unigolion yn ymateb yn wahanol i effeithiau straen, a gall rai ymdopi’n well nag eraill.”
Ychwanegodd Dr Dalesman: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod cyd-destun cymdeithasol yn medru newid ein casgliadau ar ba mor graff yw anifail. Mae malwod sy’n ffurfio atgofion cryf mewn grwpiau yn ffurfio’r atgofion gwannaf mewn unigedd. Mae’n dangos hefyd fod y berthynas rhwng ymddygiad archwiliadol a’r cof yn amrywio pan fydd y cyd-destun cymdeithasol yn newid.”
Darlithydd Bioleg Dŵr Croyw yw Dr Sarah Dalesman yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig IBERS, Prifysgol Aberystwyth ac mae’n arbenigwr ar ymddygiad.
Nid yw’r Cymro wedi dala lan gyda Dwmplen er mwyn cael dyfyniad ganddi eto, newn ni drio cofio gwneud…
Llun clawr gyda diolch i gwales.com
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.