@LlyfrauCymru : Dathlu #DiwrnodBarddoniaeth

Diwylliant / Hamdden

Dydd Iau, 4ydd Hydref 2018 yw #diwrnodbarddoniaeth !

Megis y Galiaid dewr yn llyfrau Asterix sydd ambell waith yn mynd am dro gyda’u hieir i’r goedwig (cwestiwn cwis posib: ym mha rifyn o Asterix digwyddodd y fath beth – a phaham?!) beth am ddathlu Diwrnod Barddoniaeth trwy fynd â’ch barddoniaeth am dro, ac o bosib dod â cherdd i’r gwaith?

Mae’n siŵr eich bod wedi goddef diwrnod ‘dod â’r plant i’r gwaith’ neu ‘dewch â’ch anifail anwes i’r gwaith’…ond dyma gyfle i wella eich gweithle am ddiwrnod cyfan pan ddewch chi â cherdd i’ch gwaith!

Nawr yw’r amser i chi drefnu i’ch cyd-weithwyr ddarllen eu hoff gerdd yn ystod amser paned neu amser cinio.

+

Beth am roi cerddi annisgwyl i fyny ar yr hysbysfyrddau yn eich lle gwaith?

+

Beth am greu twba [ neu tiwba!] lwcus yn cynnwys penillion bychan a chael eich cyd-weithwyr i ddewis un a’i ddarllen?

NEU

Beth am gael cystadleuaeth gorffen limrig:

Wrth godi Y Cymro o’i drwmgwsg…ayyb!

Tynnwch lun, recordiwch lais, gwnewch fideo a rhannwch nhw â’r byd ar bob cyfrwng posibl … a dathlwch!

Rhannwch eich ymdrechion ar yr hashnod #diwrnodbarddoniaeth wrth gwrs. Pob hwyl…

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau