Wyn Williams o Gyfeillion Y Cymro sy’n sgwrsio â’r cyfansoddwr John Rea.
Wyn Williams: Beth ysbrydolodd Atgyfodi?
John Rea: Fe wnaeth Atgyfodi dyfu o glywed lleisiau archif amgueddfa Sain Ffagan. Mae’n fraint mawr i gael defnyddio a chreu darn o waith a chael defnyddio’r lleisiau yma. Meddylfryd Iorwerth Peate [curadur cyntaf yr Amgueddfa Werin] oedd bod ein hanes ni, fel mae’n ymddangos yn yr amgueddfa, ddim yn rhywbeth sy’n gudd tu ôl gwydr a bod ni’n edrych yn ôl – ond bod ni’n rhyngweithio gyda’r hanes yna.
WW: Beth fydd profiad y gynulleidfa ar nos Wener 19eg Hydref yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, sef noson agoriadol Atgyfodi?
John Rea: Ma gan y darn Atgyfodi sawl elfen [ac ar noson y perfformiad] mae rhywun yn cyrraedd yr amgueddfa ac mae ‘na siwrne: ma’na osodweithiau, cyfle i bobl brofi’r adeiladau, a dwi di creu beth maen nhw’n galw yn interventions sain lle dwu ‘di cymryd seiniau o’u harchif.
WW: Pa mor ddylanwadol oedd amgueddfa werin Sweden Skansen yn yr hyn mae Sain Ffagan wedi creu ers sefydlu’r amgueddfa 70 mlynedd yn ôl yn 1948?
John Rea: Un o’r pethau mae Sain Ffagan yn ‘neud trwy y model Skansen sydd mor bwysig yw bod pobl yn cael gweld hanes trwy’r adeiladau a thrwy bensaernïaeth yr adeiladau.
WW: Un o nodweddion y model Skansen yw bod adeiladau yn cael eu symud carreg wrth garreg i’r amgueddfa, ydy eich gwaith chi yn archwilio’r dechneg hon?
John Rea: Beth sy’n ddiddorol am Sain Ffagan ac yn bwysig yw bod hi’n amddiffyn dyfodol ein hanes a thraddodiad pensaernïol yn yr adeiladau hanesyddol – ond hefyd mae ‘na rywbeth yn digwydd pan mae’r adeiladau yma yn symud ac yn cael eu hail-adeiladu.
Er ei fod yn bwysig iawn ac yn werthfawr iawn, mae rhywbeth yn cael ei golli dwi’n teimlo, a rhan o’r syniad yma o atgyfodi yw atgyfodi’r adeiladau eu hunain gyda’r syniad o’r bobl yn fyw, a beth oedd yn mynd ymlaen yn eu diwylliant…yn eu diwylliant cymdeithasol, diwylliant gwaith neu ddiwylliant crefyddol; beth oedd yn mynd ymlaen o fewn y welydd yma: beth fasech chi’n clywed? Be fase’n mynd mlaen ym mywydau’r bobl? Felly i ryw raddau dwi’n trio atgyfodi’r acwstics mewnol gyda lleisiau’r bobl yn adrodd y storïau gonest yma o’r ardaloedd gwahanol. Hefyd, recordio sain eu lleoliadau gwreiddiol: fel y nant oedd yn bwydo’r felin bompren. Y syniad yma o bwysigrwydd lle, y lle gwreiddiol, o ddod a hwnna yn ôl er mwyn adfywio’r adeiladau…
WW: Pam ydych chi’n credu oedd angen mynd i’r fath raddau i atgyfodi’r adeiladau yma?
John Rea: Roedd hi’n bwysig i’w wneud yn yr adeiladau eu hunain am ei bod yn ddigon pwerus bod yn yr ysgol yna, bod y dodrefn yna a bod rhywun yn profi yn gorfforol felly y teimlad o fynd nôl, a sut oedd hi i fod yn blentyn ysgol ar y pryd – ond os y chi’n ychwanegu ac yn adfywio’r acwstig hefyd efo lleisiau, a rhoi ryw synnwyr o’r bobl base wedi dysgu ac eistedd tu ôl y desgs y plant, yna ma na bŵer emosiynol yn digwydd hefyd, yn hytrach na dim ond corfforol. Trwy gyfuno’r ddau mae hanes yn dod yn fyw. Ma’ rhywun yn atgyfodi swyddogaeth yr adeilad – efallai hanes yr adeilad yna a’r bobl – y syniad yma o’r bobl ond hefyd rhoi llais i bobl yr archif…mae’r cyfuniad yn gweithio mewn ffordd eitha pwerus yn fy marn i.
WW: Ydy hanes a brwydr yr iaith yn dod i mewn i’ch gwaith? Er enghraifft dwi’n meddwl am Ffermdy Kennixton sydd erbyn hyn yn Sain Ffagan ei hun wrth gwrs, wedi symud o’r Gŵyr fel y gwyddoch; achos eto mae’n rhan o’r daith gerdded i’r gwestai cyn y prif berfform-iad cerddorfaol yn yr adeilad newydd.
John Rea: Dwi’n meddwl dyma be sy’n bwysig: dwi ddim yn mynd allan o’m ffordd i drio gwneud unrhyw bwynt gwleidyddol efo ‘G’ fawr, ond dyna’r ffeithiau i ryw raddau lle ma hwn yn y cwestiwn. Oedd y bobl oedd yn byw yn y tŷ yn eitha ‘posh’ ac yn siarad Saesneg. A dyna yw’r gwirionedd. Dyna yw gwirionedd y tŷ yna. Ma’ lot o resymau am hyn, ry ni gyd yn ymwybodol o’r rhesymau yna – felly dwi’n adlewyrchu efallai mewn ffordd mwy abstract y gwirionedd yna; all bobl fyfyrio ar y rhesymau a’r gwirionedd hanesyddol – lan i bobl i fwynhau y profiad.
Mewn ffordd debyg, o ran capel yr Undodiaid, dwi ddim yn ymwneud gyda’r Smotyn Du yn uniongyrchol [sef ardal arbennig iawn i’r Undodiaid yng Ngorllewin Cymru] – ond yn hytrach yn edrych ar y capel fel symbol o grefydd yng Nghymru; felly ‘da fi’r syniad yma o bregethwyr Methodist yn rhyw fath o weiddi dros ei gilydd, ond hefyd dwi’n dod i mewn [gyda cherddoriaeth] yn raddol bach tu ôl y lleisiau yma eto…mae’r ‘hwyl’ yna – yn ôl o fewn y capel fel base fe wedi bod yn wreiddiol, ond hefyd dwi’n trio dod i mewn ag ychydig bach o alawon traddodiadol, ac mae yna bwynt yn cael ei wneud yna… lan i bobl sy’n profi’r darn i efallai i wneud y pwynt ar gyfer eu hunain.
WW: Ble gallwn ni glywed mwy am Atgyfodi?
John Rea: Dwi’n hapus iawn ac yn lwcus iawn bod Radio Cymru ‘di cytuno i roi platfform i’r darn yma, achos un o’r syniadau sydd gyda ni yn y thema o atgyfodi yw bod y lleisiau yma yn ymestyn nôl mas o’r archif. Dyma ni, dyma pwy ydyn ni – ma lot o storïau achos yr archif – ar lefel genedlaethol – yw storïau personol, a ma ‘na lot ohonyn nhw, o bedwar ban Cymru. Dyna i gyd alla i wneud yw ymateb mewn ffordd reddfol.
Dwi’n lwcus iawn bod y perfformiad yn cael ei ddarlledu, sy’n gyfle i’r lleisiau yma ymestyn nôl mas trwy gyfrwng radio i bobl fyfyrio ar y lleisiau mewn sain yn unig. Bydd acen y Wenhwyseg yn mynd nôl i’r cymoedd, acenion Abergorlech yn ymestyn allan – dwi’n hoffi’r syniad yma bod pobl yn cael eu hatgyfodi a ma nhw’n mynd nôl i’r ardaloedd.
WW: Faint o waith oedd hi i gwblhau’r darn? Oedd angen cryn dipyn o ymchwil dwi’n dychmygu.
John Rea: Roedd angen imi wneud lot o ymchwil, a dwi ddim yn hanesydd, dwi ddim yn arbenigwr chwaith mewn cerddoriaeth draddodiadol, cerddor ydw i – i ryw raddau mae cyfansoddwr neu gerddor yn ymateb mewn ffordd emosiynol.
Ma yna strwythur i’r darn – dwi’n trio creu siwrnai emosiynol sy’n gadael lle… a dyna be sy’n dda efo’r cysylltiad efo’r radio, mae yna le i’r gwrandäwr fyfyrio yn weledol; i gofio efallai nain, neu…y bobl yma yw’r un bobl… mae yna le yna, dwi’n creu rhywbeth sydd yn gadael lle i’r myfyrio yma, ynglŷn â Chymreictod efallai, ond ynglŷn â theulu, ynglŷn â pherthyn, i’n gilydd heddiw.
WW: Beth oedd uchafbwyntiau casglu’r cynnwys i’r darn?
John Rea: Digwyddon ni gwrdd ag Arthur yn Nhryweryn…neu gyfweld Tyrone O’Sullivan yn Hirwaun yn Tower Colliery, oedd hwnna yn brofiad hefyd; dynion, lleisau pwysig – pobl Cymreig pwysig, felly i ryw raddau, fel darn mae’n rhannol fel rhaglen ddogfen ar y radio. Pan ma rhywun yn defnyddio lleisiau mae ystyr yn dod i mewn…ma cerddoriaeth yn bur ond efo hwn dwi’n medru defnyddio’r lleisiau mewn collage felly nid drama, nid ffilm yw hwn ond myfyrfod.
Mae’r darn Atgyfodi gan y cyfansoddwr John Meirion Rea yn cael ei berfformio yn fyw yn Sain Ffagan ar 19, 20 & 21 Hydref gan Gerddordfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Tocynnau: amgueddfa.cymru/sainffagan/Atgyfodi/
Mi fydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar Radio Cymru, a bydd
rhaglen ddogfen dai:lingual #SainSainFfagan yn datgelu mwy o
hanes #Atgyfodi ar Dydd Iau 29ain Tachwedd am 12:30pm.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.