Wedi ei gyd-ysgrifennu a’i gyd-gynhyrchu gan Matthew Evans (The Keys, Murray The Hump) ‘Wedi’ yw albym cyntaf She’s Got Spies – sef Matthew ei hun a Laura Nunez – sydd yn gymysgedd eclectig, melodig, weithiau hafaidd, weithiau melancolic, sy’n cydblethu’n dda fel casgliad.
Ffurfiwyd She’s Got Spies yn 2005. Yn fuan wedyn, gofynnwyd iddynt berfformio ar raglen cerddoriaeth Gymraeg eiconig S4C Bandit cyn iddynt fynd ymlaen i berfformio’n fyw. Ers hynny, maent wedi chwarae nifer o gigs o amgylch Cymru gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, ac maent wedi mynd ymlaen i chwarae mewn sawl gwlad, yn gynnwys Rwsia, yr Eidal, Bwlgaria, ac yn fwyaf diweddar perfformiwyd ar long yn yr Antarctig. Maent hefyd wedi recordio sesiynau ar gyfer BBC Radio Cymru – sesiynau a gafodd sylw cyn belled â’r Unol Daleithiau.
Rhyddheir yr albym iaith Gymraeg 14 trac yna ar Ddydd Gwener Fedi 14eg 2018 ac mi fydd ar gael ar CD ac i’w lawr lwytho yn ddigidol. Recordwyd y caneuon rhwng 2006 a 2009 ac maent ar gael am y tro cyntaf ar ffurf albwm.
Mae Laura o Lundain yn wreiddiol, lle dechreuodd ddysgu Cymraeg cyn ffurfio’r band yng Nghaerdydd. Ar ôl treulio ychydig o flynyddoedd yn alltud ym Moscow, Rwsia, mae Laura wedi dychwelyd adref i ryddhau’r albym gyntaf yma, gyda gig yng Nghwdihŵ, Caerdydd ar nos Fercher Medi 19 gyda Codewalkers a Selena in the Chapel a bydd yna rhagor o gigs yn yr Hydref.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.