Bydd ‘Dau Gi Bach’ yn mynd i godi arian ar ran Mudiad Meithrin yn ystod wythnos 1-7 Hydref!
Mae hyn yn dilyn ymgyrchoedd llwyddiannus tebyg Mudiad Meithrin gan gynnwys
torri record y byd wrth gynnal ‘Parti Pyjamas Mwyaf y Byd’ a ‘Rhywbeth Neis Neis i De’.
Nod gweithgareddau’r ymgyrch sydd wedi’i seilio ar yr hwiangerdd ‘Dau Gi Bach’ yw codi arian ar gyfer y Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a Meithrinfeydd Dydd. Fe fydd y cylchoedd yn trefnu teithiau cerdded, neu deithiau natur lleol i deuluoedd i goedwig, llwybr natur, neu i barc gan godi tâl ar y teuluoedd am gymryd rhan.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi noddi’r ddwy gystadleuaeth sydd yn rhan o’r ymgyrch sef cystadleuaeth i blant y Cylchoedd Meithrin i greu crefft 3D gan ddefnyddio hen focs esgidiau, a chystadleuaeth sy’n agored i unrhyw blentyn i greu llun cefndir i’r ddau gi bach.
Cynhelir ymgyrch ‘Dau Gi Bach’ Mudiad Meithrin yn ystod wythnos 1-7 Hydref. Dilynwch @mudiadmeithrin ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth bellach.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.