Heddiw yw cychwyn wythnos o ddigwyddiadau yn rhan o ŵyl Gymraeg Casnewydd o’r enw Gŵyl Newydd a fydd yn digwydd yn Llys Malpas, Casnewydd ar ddydd Sadwrn Medi’r 15fed rhwng 12 a 4 y prynhawn.
Gyda nifer o wyliau celfyddydol a cherddorol ar hyd a lled Cymru erbyn hyn, daeth grŵp ynghyd i drafod cynnal gŵyl Gymraeg yng Nghasnewydd, ac wedi ymgynghori â’r cyhoedd nodwyd yn glir bod awydd i gynnal gŵyl Gymraeg yn yr ardal er mwyn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg yn gymdeithasol yn y ddinas a thu hwnt.
Nod yr ŵyl yw cael cyfle i fwynhau a chymdeithasu mewn awyrgylch hollol ddwyieithog yn yr ardal. Mae hefyd yn gyfle i godi proffil y Gymraeg yn gymunedol gan roi ffenest siop i’r llu o gyfleoedd sydd gan bartneriaid lleol i siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r di-Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn ein milltir sgwâr.
Bydd stondinau gwybodaeth a nwyddau lleol yn ogystal â pherfformiadau gan Gôr y Dreigiau, Côr Afon Lwyd, ysgolion yr ardal, perfformiad theatrig gan Mewn Cymeriad, dawnsio gwerin gyda Gwerinwyr Gwent, sgiliau syrcas a balŵns, cerddorfa ukelele Iwcs, gemau fideo, chwaraeon yr Urdd, stori gyda Cymraeg i Blant ac i gloi’r diwrnod bydd y canwr Mei Gwynedd yn perfformio.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.