Mae’r Steddfod yn dechrau’n gynnar y flwyddyn hon, a hynny yng nghwmni rhai o sêr y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Ar brynhawn dydd Gwener, mi fydd y bandiau Lleden a Wigwam ymysg y rhai fydd yn cymryd rhan mewn gwŷl yn Grangetown, nepell o Faes yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd.
Y Tramshed, lleoliad mwyaf diweddar y Brifddinas, fydd yn cynnal y digwyddiad, a hynny er mwyn codi arian i’r Cylch Meithrin lleol yn Grangetown. Gan ddechrau am 4yh gyda’r artist Reuel Elijah a’r dawnswyr The Jukebox Collective, gobaith y trefnwyr yw y bydd hwn yn Wŷl gyda blas lleol fydd hefyd yn denu rhai o ymwelwyr cynharaf y brifwyl.
Mae nifer o’r perfformwyr yn byw yn yr ardal, gan gynnwys Mark Lugg, fydd yn ymuno gyda’i hen bartner Gareth Potter o’u band adnabyddus Tŷ Gwydr, i gyflwyno ‘Bwgi Bach’, sef set disgo – neu rêf – i’r plant.
Yna fydd Lleden – yn llawn eu lliw, hwyl a glitter arferol – yn cymryd y llwyfan er mwyn perfformio rhai covers o’r clasuron Cymraeg. Meddai Tara Bethan, eu prif leisydd, “dwi wedi byw yn yr ardal ers tro erbyn hyn, ac mae’n braf iawn felly cael cyfrannu at ddigwyddiad fydd yn dod a’r gymuned leol at ei gilydd – a hynny mewn lleoliad braf ar y stepen drws.”
Yn dilyn Lleden mi fydd act lleol arall, Ani Glass, yn cymryd yr awennau fel y DJ, cyn i’r band Wigwam gorffen y noson, a hynny gyda rhai o’u caneuon o’u halbym newydd, Coelcerth, sy’n cael ei lansio ganddynt yr un diwrnod.
A hwythau yn fand ysgol, mi fydd y gig yn ddechreuad ar gyfnod cyffrous i’r bechgyn wrth iddynt hyrwyddo eu record a pherfformio mewn sawl digwyddiad – gan gynnwys un o gigs Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith ar y nos Sul. Meddai Gareth, un o aelodau’r grŵp,
“Ry ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau wythnos gyffrous iawn yng Nghaerdydd, a hynny mewn lleoliad gwych yng nghwmni acts adnabyddus. Mae’n addo bod yn brynhawn a noson grêt, felly os ydych chi yn y brifddinas, dewch draw.”
Mae drysau’n agor am 3.45yh, ac yn ogystal â’r gerddoriaeth mi fydd Anni Llŷn yn cynnal gweithdy, fe fydd ‘glitter gloyw’ ar gael i’r plant, cornel grefftau a hefyd lluniaeth gan gwmni Ffwrnes – sef ‘Bois y Pizza’ fuodd ar S4C yn ddiweddar.
- Mae modd prynu tocynnau o flaen llaw, gydag oedolion yn talu £10, ac yna tocynnau £5 i blant 12 a hyn, a £1 i blant iau.
Archebwch fan hyn:
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.