AR Y CYFRYNGAU – gan Dylan Wyn Williams
Bae Caerdydd fydd cyrchfan i lawer o eisteddfodwyr pybyr yr haf hwn – heblaw’r cwynwrs “fydd hi ddim run peth leni” sy’n hiraethu am gael eu corlannu mewn cae cors! Fydda i ddim yno bob dydd, ond bydd y bytholwyrdd Tocyn Wythnos gyda Beti George a’i gwesteion yn gronicl perffaith bob nos ar y radio. Serch hynny, dw i’n teimlo ers blynyddoedd bod angen ailwampio’r arlwy ’steddfodol ar ein cyfryngau. Wedi’r cwbl, hyn a hyn o uchafbwyntiau o’r uchafbwyntiau y gall rhywun ei oddef ar S4C.
Dw i’n hiraethu am ddyddiau da Pethe neu’r Sioe Gelf gyda thrafodaethau am y prif enillwyr ac adolygiadau soffas o gyngherddau, dramâu neu lyfrau newydd. Beth am fersiwn deledu o sioe Beti, fel mae BBC Radio 4 wedi’i wneud gyda Front Row ar BBC2? A beth am atgyfodi ysbryd y Swigs drwgenwog i brocio a bwrw golwg ddeifiol ar ein cyfnod ciami fel cenedl ar hyn o bryd, rhwng abswrdiaeth Cairns, y Bont a Trago Mills? Efallai gall criw Hansh gamu i’r adwy…
Dw i’n mopio ar gyfresi teithio pan nad yw’r coffrau’n caniatáu i mi godi pac. Bu llond IeuanAir o gyfresi crwydro difyr ar S4C erioed. Ydych chi’n cofio Ar y Lein (2004-2007) hefo Bethan Gwanas yn dilyn llinellau hydred a lledred y byd? Mi gollodd y Sianel gyfle euraidd adeg Cwpan y Byd Rwsia i ailddarlledu pennod o’i siwrnai epig ar reilffordd Traws-Siberia. Wedi’r cwbl, fe blastrodd S4C y gair “Newydd” ar hysbysebion Adre gyda Nia Parry er bod ambell bennod yn dair mlwydd oed. Cyfres deithio arall sy’n aros yn y cof ydi un Lowri Morgan yn 2014, pan gafodd flas ar ŵyl, gwaith a hen draddodiadau Tsieina a Mecsico yng nghanol berw’r byd modern.
Bellach, yr hogia sy’n cael pasbort gan S4C i fynd fel y mynnant cyn i gyfyngiadau Brexit daro. Mae Codi Hwyl yn hen ffefryn er bod y ‘ffraeo’ rhwng Dilwyn Morgan a John Bŵts braidd yn ailadroddus bellach. Mae’r dybl act o Faldwyn wedi ennill eu plwyf hefyd, ond collwyd cyfle euraidd i ddangos bwrlwm Bucureşti yn Wil ac Aeron: Taith Rwmania, pan wastraffwyd pennod gyfan ar frenhines y sipsi yn ei phalas ‘arbennig’ hithau. Ond y ddeuawd orau a’r diweddaraf ydi Ieuan Harry a Jez Phillips, Bois y Pizza yn gwibio mewn popty-fan tair olwyn o Lanelli ar gyfer cystadleuaeth Campionato Mondiale della Pizza yn Napoli, trwy Wlad y Basg a Ffrainc. Gwyliwch.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.