Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd hefo’r gwynt a’r glaw, ac mae’r dydd wedi cychwyn ymestyn. Felly mae hyn yn golygu fod ‘na fwy o amser i wario ar gychwyn paratoi yr ardd ar gyfer y tymor i ddŵad
Os ydych chi wedi plannu hadau yn barod, mi ddylsa nhw ddechra dŵad yn eu blaenau rŵan, ac mae angen symud nhw ‘mlaen i’r cam nesa. Os ydych hefo lle tu allan sydd yn weddol gysgodol mi fedrwch drio eu plannu tu allan ond os droith y tywyddwrach fedrith hyn eu difetha. Mi fedrwch roi y planhigion bach mewn potiau unigol os mond ychydig sydd ganddoch; neu mi fedrwch hefyd eu plannu syth yn yr ardd. Ond wedyn bydd angen eu cysgodi dros dro tan y bydd y planhigion bach wedi sefydlu – cysgod fel hen ffenestri, plastic perspex neu ryw fath o blastic hyblyg fedrwch ei osod dros y planhigion – digon saff i aros tan fydd y tywydd yn gwella a’r planhigion bach wedi datblygu.
Mae hi hefyd yn amser da wan i gychwyn plannu llysiau gwraidd e.e. moron, panas, tatws a phethau fel pys a ffa. Pan yr ydych wedi plannu eich pys, gwyliwch allan am y Jac-y-do-au – mae’r adar yma’n reit glyfar ac yn disgwyl i’r pys bach ddangos eu gwynebau drwy’r pridd cyn difetha rhesi o bys mewn dim wrth chwilio am bryfid a mwydon yn y pridd. Mi fedrwch chi drio rhoi rhes o ganghennau tenau rhyw 3 i 4 troedfedd mewn uchder a’u gwthio i mewn i’r pridd rhyw droedfedd fel bod nhw’n ddigon cadarn. Yna plannwch y pys wrth waelod y canghennau cyn gosod brigau mân a’u gwthio yn erbyn y canghennau mwyaf i warchod y pys tra bod nhw’n tyfu. Fe geith y pys lonydd i dyfu drwy’r brigau ac i fyny hefo’r canghennau. Mae ffa weithiau angen eu cysgodi oddi wrth y Jac-y-do ond tydio ddim yn ddibynnol ar y ffyn i’w helpu i’w dyfu, er ella y bydd angen ‘chydig o gefnogaeth arno ar ôl tyfu yn uchel.
Erbyn hyn mae hi’n amser gwych i greu biniau compost ar gyfer y tymhorau i ddŵad. Cewch ddefnyddio unrhyw fath o ddefnyddiau i greu blwch i roi bob dim y medrwch chi ei gompostio ynddo – o’r tŷ ac o’r ardd:
GWASTRAFF O’R TŶ I GOMPOSTIO – Pethau fel gwastraf gwyrdd cegin (dim braster a chig), cardfwrdd, papur, gwastraf te a choffi, plisgyn wy;
GWASTRAFF O’R ARDD I GOMPOSTIO – Glaswellt o’r peiriant torri gwair, brigau mân, chwyn, hen blanhigion neu blanhigion sâl ayb. Mi fedrwch ddefnyddio y compost yma ar ôl ychydig o fisoedd i roi maeth yn nol i mewn i’ch gardd, unai yn yr ardd lysiau neu yn y borderi i’r blodau. Mae’r compost hwn yn arbennig o dda am agor strwythur y pridd i fyny er mwyn y planhigion a’r trychfilod sydd yn byw ar wynab y pridd. Gwnewch y blwch compost ddigon mawr i ddal gwerth rhyw 3 i 4 mis o wastraff a’i droi hefo fforch bob hyn a hyn. Mi fedrwch orchuddio tomen gwastraff hefo hen garpedi neu geuad ffansi os y mynnwch. Y peth pwysica ydi eich bod yn gwneud be fedrwch chi hefo be sydd ganddoch, ac mi ddeith pethau yn ei blaen mewn dim!
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.