Does ond ychydig flynyddoedd ers cyfnod poblogaidd Diesel – hwn meddid oedd y dull o gwtogi ar CO2. Daw llai o hwnnw o gwt car Diesel na char petrol gan mai mwy darbodus ydyw. Ar y pryd, CO2 oedd y bwgan mawr amgylcheddol.
Amlwg yw’r angen am wella safon awyr ac amgylchedd dinasoedd mawrion. Anodd ydyw ceisio cael gafael gwrthrychol ar y sefyllfa wedi helynt “Dieselgate” Grŵp Volkswagen. Dangosodd y sefyllfa anffortunus honno’r amheuon cyffredinol ynglŷn â dulliau mesur cynhwysion y bibell mŵg. Anodd ydyw hefyd taro ar brawf cyson-wyddonol all hefyd adlewyrchu profiad gyrru go iawn. Cytunwyd ar ddulliau profi bydeang gyrru ‘go iawn’ yn ddiweddar ac mae’r cwmnïau ceir wrthi’n eu mabwysiadu.
Eisoes daeth rhybudd rhag dibynnu’n ormodol arnynt. Gwahanol o hyd yw gyrru beunyddiol. Serch hynny, gwell na chynt yw hi ac mae’r canlyniadau’n dangos yn eglur eto mai ysgafnach ei lwnc yw’r car Diesel na char petrol cyfatebol. Er ateb gofynion Rheoliadau Euro VI 2016 bu llai o alw am geir Diesel newydd ers y llynedd a mwy o ofyn am geir petrol. Hyn oherwydd ansicrwydd gwleidyddol a thrafod peiriannau Diesel oll (hen a chyfoes) yn yr un gwynt. Eisoes gwelwydcynnydd yn lefelau CO2 – sefyllfa llai na boddhaol.
Hanfodol i fywyd trefi a phentrefi Cymru ydy’r car modur. Rhaid i sawl Cymro – a Chymraes – deithio cryn bellter i’r gwaith yn feunyddiol. Ar ben hynny, mae holl orchwylion teuluol a chymdeithasol naill ai fin nos neu dros y Sul. Milltiroedd i’r galwyn sy’n allweddol. Does gan bawb ddim garej a thrydan ynddo. Ac os oes daugar – pa un gaiff y flaenoriaeth?
Rhy aml o lawer fe ddaw toriadau ar y cyflenwad trydan. Rhwng hynny a thywydd mawr, dyna ichi barlysu ardaloedd cyfan os yn ddibynnol ar gerbydau trydan. Yn y fantol hefyd mae cwestiynau ehangach rhyddid personol a chludiant preifat.
“Dylid oedi cyn clodfori trydan”
Dylid oedi cyn clodfori trydan. Er nad delfrydol mo pob un o wledydd olew y byd, dylid oedi cyn clodfori trydan. Daw elfennau sylfaenol batrïau cerbydau cyfoes (Cadmiun-Lithium) o lefydd amheus a dweud y lleiaf. Bu cryn feirniadaeth eisoes ar gloddio’r fath adnoddau prin – naill ai parthed amgylchiadau gwaith y gweithwyr a/neu effaith ar yr amgylchedd.
Ac o’r lle y daw’r holl drydan ychwanegol? Mae hefyd gwestiynau sylfaenol ynglŷn â “diwedd oes”. Gellir ail-gylchu 80% a mwy o geir petrol a Diesel. Does dim ateb cyflawn ar gyfer byd o beiriannau trydan. Ac o’r lle y daw’r holl drydan ychwanegol? Llosgi glo, olew neu nwy yw’r dulliau sylfaenol o hyd (hyn heb ddechrau dadlau ynglŷn ag ynni niwcliar). Waeth ichi losgi eich olew eich hun a gwneud gwell ‘job’ ohoni.
Beth am y dyfodol? Daeth dau ddatblygiad arwyddocaol yn ddiweddar. Cyhoeddodd Prifysgol Loughborough ganlyniadau ymchwil sy’n dangos sut y gellid dileu disbyddu ocsid nitraidd [neu Nitrous Oxide] gyda pheiriant Diesel. Gwneir hyn trwy addasu hylif urea ‘AdBlue’ (a ddefnyddir eisoes gan beiriannau Diesel) a’i droi’n hylif ammonia-ddwys sy’n ymosod ar elfennau’r ocsid nitraidd. Technoleg Creu a Thrawsnewid Ammonia neu ‘ACCT’ yw’r enw arno, ac fe all drawsnewid ‘proffil’ amgylcheddol y peiriant Diesel. Mae cwmni ceir Mazda ar fin cyflwyno peiriant modur arloesol i’r farchnad. Cyfuno trefn petrol (tanio’r aer a thanwydd trwysbarc) a Diesel (tanio trwy gywasgu’r gymysgedd) wna hwn. “SKYACTIV-X” yw enw’r cwmni arno.
Bu eraill yn gweithio yny maes gyda Mercedes-Benz, yn ôl pob sôn, heb fod ymhell y tu ôl i Mazda. O ystyried pob agwedd ar gynhyrchu a chynnal car modur dywed Mazda bod y cerbyd newydd gystal, o fewn dim, â char hybrid petrol-trydan neu Diesel-trydan. Hyn heb aberthu rhinweddau moduro confensiynol. Mae digon o ddyfodol i’r Diesel er y pardduo gan ambell i wleidydd anwybodus.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.