Colofn Huw Stephens

Diwylliant / Hamdden

Tymor Gwobrau – Liam Gallagher, Naomi Campbell, Heather Jones a Heledd Watkins Colofn Huw Stephens

Yng nghanol tymor y gwobrau yn ddiweddar, roedd yn bleser cael cyflwyno’r gwobrau NME yn y Brixton Academy. Cynhaliwyd y gwobrau cyntaf nôl yn 1953, gyda DJ cawslyd yn cyflwyno a jel gwallt yn brif
noddwr. Yn 2018, doedd dim llawer wedi newid, ac fe gafwyd noson hwyliog. Enillodd
Liam Gallagher wobr Godlike Genius am ei gyfraniad i Oasis, gwobr roedd ei frawd Noel wedi ennill eisoes rhai blynyddoedd ynghynt. Mae cyn olygydd yr NME,Mike Williams, yn enedigol o Wrecsam
, ac yn rhugl yn y Gymraeg. Ddes i i’w nabod pan sefydlodd y cylchgrawn Kruger yng Nghaerdydd, sbel ar ôl iddo raddio o Aberystwyth. Roedd Kruger yn gylchgrawn rhad ac am ddim ac yn canolbwyntio ar gerddoriaeth. Gwych oedd gweld Mike hefyd yn llywio’r NME, sydd erbyn hyn wedi dod i ben fel cylchgrawn am ddim ar bapur. Tybed be wneith e nesa?
Yr unig enillydd o Gymru ar y noson oedd y band The Big Moon, sy’n cynnwys y drymiwr Fern Forde. Mae Fern yn dod o Gaerffili, a bu hi’n ddisgybl yn Ysgol Cwm Rhymni. Nes i gwrdd â hi gynta yn Efrog
Newydd, gefn llwyfan mewn gig, pan ddechreuodd siarad Cymraeg â mi. Hyfryd oedd cael dweud llongy
-farchiadau iddi ar lwyfan yr NME’s. Un o gyflwynwyr gwadd y noson oedd y supermodel
Naomi Campbell. Mae’n byw yn Efrog Newydd, felly fe soniais wrthi am y bwyty Cymreig yn
Brooklyn, Cantre’r Gwaelod. Diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd y bwyty ei bod am gau ei drysau am y tro olaf y mis hwn, yn anffodus. Ges i’r pleser o fwyta yno yn 2016, ac roedd y bwyd a’r croseo Cymreig yn wych. Os yw Naomi yn mynd i chwilio am y Sunken Hundred, gobeithio na fydd hi’n meddwl mod i’n gelwyddgi!
Ar ôl yr NME’s, roedd yn bleser cael mynd i Wobrau’r Selar yn Aberystwyth. Hwn oedd y
seithfed flwyddyn i gylchgrawn pop Cymraeg y Selar i gael ei chynnal, ac mae’n wych gweld y bandiau yn
perfformio a chael eu gwobrwyo. Mae’n noson fawr, a phobl ifanc o ledled Cymru yn trefnu bysus i gyr
-raedd Aber mewn pryd i weld yr holl sets. Weithiau, fodd bynnag, rwy’n teimlo fod y gwobrau yn cael eu
colli ym mwrlwm y noson. Tybed a fyddai modd i’r gwobrau ddigwydd yn gynharach yn y noson mewn
theatr fwy ffurfiol, gan roi mwy o barch i’r rhai sy’n ennill? Ac wedyn dechrau ar noson fawr o gael hwyl a gwylio’r bandiau?
Mae’n wych gweld y Wobr Cyfraniad Oes yn datblygu bob blwyddyn, gyda Heather Jones
yn ei derbyn eleni. Roedd y sgwrs rhyngddi hi a Heledd Watkins ar y dydd Sadwrn yn llawn straeon difyr, ac Anweledig yn trafod y 25 mlynedd sydd ers iddyn nhw ffurfio. Hyd yn oed yn gynharach yn y dydd, ar lan y môr, roedd ‘na ffair records ymlaen. Braf oedd gweld Toni
Schiavone, a chael prynu rhai darnau o vinyl diddorol fel albym y Diliau ac albym newydd sbon, ac arbennigo dda Y Niwl. Roedd Malcom Gwyon yn gwerthu yno hefyd, a bydd mwy am y gŵr hwn o
Aberteifi y tro nesa.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau