Cerddoriaeth gyda Sôn am Sîn

Diwylliant / Hamdden

CYFLWYNIAD

Croeso i golofn cerddorol Sôn am Sîn! Rydym yn falch o weld bod Y Cymro yn ei ôl ar ôl ei aeafgwsg ac yn edrych ymlaen i fod yn rhan o’r atgyfodiad. Byddwn yn trin a thrafod cerddoriaeth Gymraeg gyda newyddion ac adolygiadau o’r cynnyrch diweddaraf, ac rydym yn edrych ymlaen i’ch herio ac i’ch cyflwyno i’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth sydd allan yna i’w fwynhau. Ewch draw i sonamsin.cymru am fwy gan Sôn am Sîn!

NEWYDDION: GŴYL RHIF 6 A GREEN MAN

Wrth i’r babell hel llwch yn y garej, mae misoedd cyntaf y flwyddyn yn ein caniatàu ni i edrych ymlaen tua’r haf, wrth i wyliau cerddorol y wlad gyhoeddi eu lein-yps. Y rhai cyntaf i wneud hynny yng Nghymru oedd Festival No. 6 (6ed-9fed o Fedi) a Green Man (16eg i 19eg o Awst), ac am wledd sydd o’n blaenau. Mae’r ŵyl draw ym Mhortmeirion wedi cyhoeddi y bydd The The, Franz Ferdinand, Gwenno ac Omaloma ymysg eu prif berfformwyr, ac yng nghyffiniau Bannau Brycheiniog, bydd The War on Drugs, Fleet Foxes, Public Service Broadcasting a Boy Azooga yn cyfrannu at benwythnos na ddylid ei hosgoi.

NEWYDDION: COLORAMA, PLU A BENDITH YN TEITHIO

Am y tro cyntaf ers ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn fis Awst diwethaf, bydd cyfle i weld Bendith yn chwarae’n fyw fis Ebrill. Yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, ar nos Wener y 13eg, ac yn Pontio, Bangor ar nos Sadwrn y 14eg, bydd y cyfuniadau cerddorol a ddaeth at ei gilydd i greu’r band, sef Plu a Colorama, yn perfformio yn ogystal ag ymuno ynghyd i gyflwyno caneuon hudolus Bendith. Yn dilyn taith fel gitarydd i’r Pretenders, bydd y perfformiadau hyn yn newid mawr i Carwyn Ellis, oedd yn troedio llwyfan y Maracanã ddim ond mis yn ôl!

NEWYDDION: YWS GWYNEDD A RECORDIAU CÔSH

Ennillydd mawr Gwobrau Selar ym mis Chwefror oedd Yws Gwynedd, a gipiodd bedair gwobr i gyd. Ond, bydd rhaid i’w ffans ddisgwyl i’w weld yn chwarae’n fyw eto, gan ei fod wedi dweud ei fod yn bwriadu cymryd seibiant o berfformio. Wedi dweud hynny, mae’n gobeithio treulio amser yn y stiwdio gyda’i fand yn ystod 2018, a dywedodd wrth Hansh y buasai’n hoffi cydweithio’n fuan gydag un o sêr mwyaf y sîn, Alys Williams. Tan hynny, mi fydd yn brysur gyda’i label recordio Côsh, sydd wedi rhyddhau cynnyrch gan ennillydd gwobr Selar am Artist Newydd y Flwyddyn, Gwilym, yn ogystal â Lewys yn barod eleni.

PUMP SY’N PLESIO

Bob mis, byddwn yn dewis pum cân ydym ni wrth ein boddau gyda nhw. Ewch draw i sonamsin.cymru am lincs i’r caneuon!

  1. Bubblegum – Omaloma

  2. Penglog Mewn Parti – Marged

  3. Eus Keus? – Gwenno

  4. Fel Fi Fod – Adwaith

  5. K’ta – Serol Serol

ADOLYGIAD: ALBWM GWENNO

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Y Dydd Olaf yn 2015, mae Gwenno wedi cymryd cam i gyfeiriad gwahanol gyda Le Kov, ac mae’r caneuon synth-pop tynn wedi diflannu i wneud lle ar gyfer seiniau mwy atmosfferig a myfyriol. Mae’r gân agoriadol, ‘Hy a Skoellyas Liv a Dhagrow’ yn sefyll allan, ac yn swnio fel ei fod wedi dod yn syth allan o ffilm Tarantino. Gall pawb uniaethu â’r teyrnged i gaws yn ‘Eus Keus?’, sydd yn un o fomentau mwyaf egnïol yr albwm, law yn llaw â ‘Tir Ha Môr’. Os oedd Y Dydd Olaf yn albwm ar gyfer nos Sadwrn, mae Le Kov yn llawer mwy addas i fore dydd Sul. 9/10

ADOLYGIAD: ALBWM SEROL SEROL

Fel rhan o symudiad Space Pop Dyffryn Conwy, mae senglau cyntaf Serol Serol wedi derbyn sylw haeddiannol gan y wasg. Mae cysyniad yr albwm, sydd yn dwyn yr un enw a’r band, yn llwyddo i greu awyrgylch ac yn eich gorfodi ar daith i blaned arall am dri chwarter awr. Fodd bynnag, nid yw pob munud ohoni yn cyrraedd yr un uchelfannau â chaneuon fel Cadwyni, K’Ta ac Arwres. Mae pop bachog y dair cân honno yn anodd i’w hanghofio, tra bydd seiniau prog caneuon fel ‘Cysawd yr Haul’ yn cymryd mwy o amser i ennill eich brwdfrydedd. 7/10

 

ADOLYGIAD: ALBWM BLODAU GWYLLTION

Mae’r cyfuniad rhwng y llais a’r gitâr yn fformiwla yr ydym yn hen gyfarwydd ag ef erbyn hyn, ac nid yw darganfod modd ffres o ddefnyddio’r fformiwla hwn yn hawdd o bell ffordd. Llifa atseiniau o gerddoriaeth Steve Eaves yn naturiol drwy’r holl beth, ond eto, mae llais artistig Manon Steffan Ros yn serennu yn albwm cyntaf Blodau Gwylltion. Er bod yn rhaid edmygu eu parodrwydd a’u chwant i arbrofi, efallai mai’r caneuon mwyaf confensiynol, fel ‘Marchlyn’ a ‘Pan O’n I’n Fach’, yw’r rhai mwyaf llwyddiannus yn y casgliad hwn. Un o’r caneuon hynny yw ‘Cân Merêd’, sydd yn deyrnged teimladwy i’r diweddar Meredydd Evans, ac yn uchafbwynt addas i albwm all ymddangos yn haeddiannol ar restr byr Albwm y Flwyddyn yr Eisteddfod eleni. 8/10

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau