Dwy gêm fawr…Enfawr @garmonceiro

Chwaraeon

Er bod y tymor pêl-droed ar ben, ma’r ddwy gêm dwi ’di bod yn edrych mlân atyn nhw fwya yn dal i ddod – sef dydd Sadwrn 8 Mehefin yn erbyn Croatia, a’r nos Fawrth ganlynol yn erbyn Hwngari. Dwy gêm fawr. Enfawr. Gwir brawf o le ma’n tîm ni arni o dan Giggsy.

Nawr, ma’ cynnal gemau mor arwyddocaol ar ddiwedd tymor hir yn eithaf amheus, dwi’n credu; ond dyna ni, dyna sefyllfa pêl-droed rhyngwladol erioed, gorfod ei ffitio i mewn i galendr prysur.  Ar ben hynny, mae Cymru’n anlwcus braidd i gal dwy gêm fawr y tro hwn, yn hytrach nag un (gêm gyfeillgar yw ail gêm Croatia y tro hwn, er enghraifft).

Yn ogystal, byddwn ni heb Aaron Ramsey ar gyfer y gemau hyn, a byddwn ni’n gweld ei ishe fe’n ofnadw – pa dîm fydde ddim yn gweld ishe’u chwaraewr canol cae gore??

Ond y gobaith nawr yw bod gan Gymru garfan all ddelio â cholled o’r fath: achos, o feddwl am y peth, dyma wythnos fwyaf tyngedfennol Cymru ers inni neud y smonach ’na yn erbyn y Gwyddelod nôl yn hydref 2017.

“noson fochedd” : Cymru v Iwerddon, Hydref 2017 llun @dailingual

Ma’ tipyn wedi newid i Gymru ers y noson fochedd honno yn erbyn Iwerddon (na soniwn ni amdani fyth eto) – rheolwr newydd, wrth gwrs, a charfan wedi’i thrawsnewid, hefyd.  Mae Giggsy wedi dangos gallu annisgwyl i’n synnu ni gyd gyda’i garfannau. Yr ambell dro diwethaf dwi ’di bod strêt ar wicipedia yn trio gwitho mas pwy yw’r enw, neu’r enwau, anghyfarwydd.

Fe gafon ni gyd dipyn o sypreis beth amser yn ôl wrth ddysgu bod James Lawrence o Anderlecht yn y garfan (a sypreis arall wedyn wrth ei weld yn disodli Ashley Williams yn y tîm yn erbyn Slofacia). Enghraifft arall: ychydig fisoedd yn ôl, do’n i heb glywed am Will Vaulks, ond, erbyn hyn, dwi’n gwbod bod e’n foi o’r siort ore sy’n neud tipyn yn ei gymuned, ac y dyle Caerdydd ystyried fe i atgyfnerthu canol y cae!  Ma’ fe hefyd wedi mynd o fod yn enw anghyfarwydd i bawb bron, i fod yn debygol o ddechrau’r gemau sydd i ddod. Hyd yma, allwn ni ddim beirniadu ymdrechion Giggs a staff yr FAW i ddod o hyd i ddatrysiadau.

Fe gafon ni ein synnu fwy fyth gan y garfan ymarfer a gyhoeddwyd yn ddiweddar i dreulio ychydig o amser yn yr Algarve yn hyfforddi’n weddol ddi-straen.  Ychydig fel trip ysgol oedd hon… wel, gweud gwir, o gofio oedran rhai o chwaraewyr Cymru y dyddie hyn, lot fel trip ysgol.

Fe enwyd saith chwaraewr digap: rhai ohonyn nhw, fel Joe Rodon (Abertawe), yn ddyrchafiadau y gellid bod wedi’u disgwyl, ond rhai’n fwy…annisgwyl felly: gan fod gymaint o fois yn methu bod yno oherwydd gemau clwb, mae’n siŵr mai bwriad Giggsy wrth enwi’r golgeidwad Owen Evans (22 oed, Wigan Athletic, un gêm i’w glwb) a Terry Taylor (Wolves, ond y tîm dan 18, nid y tîm cynta) yw manteisio ar y cyfle i roi profiad iddyn nhw, yn hytrach na’u hystyried nhw o ddifri ar gyfer y gemau i ddod.

Mae’n bosib fod yna reswm amgen o ran Terry Taylor hefyd, a fynte’n fachgen o’r Alban sy’n gymwys i Gymru trwy ei fam. Chi byth yn gwbod – os troith e mas i fod fel Pirlo, fydd ei gipio fe oddi ar yr Albanwyr yn ychydig o ddial o’r diwedd am J*e J*rdan.

O ran yr enwau newydd eraill y garfan hyfforddi, mae Louis Thompson yn chwaraewr canol y cae sydd, ymddengys, wedi ei alw i’r garfan fel gwobr am oroesi cyfnod anodd, llawn anafiadau.

Mae’n siŵr y bydd tipyn o’n darllenwyr wedi clywed am yr hogyn o Fangor, Nathan Broadhead – sydd newydd ei enwi’n chwaraewr dan 23 y flwyddyn yn Everton, ond sydd bellach yn 21 ac sydd angen dechrau yn y tîm cyntaf, os nad yn Everton, yna rywle arall.  Llai ohonoch chi, dwi’n cymryd, fydd yn ymwybodol o’n hymosodwr newydd o Barnsley: Kieffer Moore. (’Na chi enw bois bach: ma’n swnio fel reslar neu rwbeth. Ond os ydech chi’n meddwl cymryd y mic – peidiwch: ma fe’n 6 throedfedd a 5 modfedd).  Fe gafodd e, ei gydchwaraewr yn Barnsley, Ben Williams (20, cefnwr chwith), a Dylan Levitt (18 oed, tîm ieuenctid Man Utd) eu cynnwys yn y garfan hyfforddi ac wedyn y garfan go iawn ar gyfer y gemau yn erbyn Croatia a Hwngari. Mae Dylan Levitt yn enw cyfarwydd i’r rhai ohonon ni sy’n ddigon trist i wylio fideos o chwaraewyr ifanc ar YouTube ar ôl clywed pethe da.

Yn wir, dw i eisoes wedi mynd dros ben llestri am y llanc hwn wrth drafod dyfodol ein timau gydag ambell Sais:

‘Dylan Levitt, remember the name’, medde fi, ‘he’s like a latter-day Paul Scholes’.

Nawr, peidiwch rhoi gormod o bwys ar hyn… yn y gorffennol dw i wedi bod yn euog o ddweud bod Jason Koumas yn well na Zidane, a bod Gabbidon yn neud i Rio Ferdinand edrych fel Boris Johnson ar y bêl. Dw i ddim yn ddiduedd yn y pethe ’ma. Dw i’n meddwl bo siawns gan y tri uchod (Moore, Levitt a Ben Williams) fod yn rhan o’r gemau i ddod. Moore gan fod rhywun 6ft 5 sy’n sgorio gôls wastad yn handi, Levitt achos os oes ’na wendid yn y garfan, canol y cae yw hwnnw, a Ben Williams achos bod Ben Davies ddim ond ar gael ar gyfer un o’r gemau yr wythnos hon.

(Lle ma’r cefnwr chwith arall, PaulDummett, meddech chi? Pwy a wyr – dyw’r boi’n amlwg ddim yn ddibynadwy).

Dyw Giggsy ddim wedi bod yn shei o gwbwl o ran twlu chwaraewyr newydd i mewn (ma’ fe di rhoi debuts i Chris Mepham, Connor Roberts, Billy Bodin, Matt Smith, George Thomas, Tyler Roberts, Daniel James, James Lawrence, Rabbi Matondo, Kieron Freeman a ma’n bosib bo fi’n anghofio am un neu ddau) felly ’se fe ddim yn syndod ei weld e’n ddefnyddio rhai o’r enwau newydd hyn, hyd yn oed mewn gemau mor bwysig.

Wedi dweud hynny; ddim arbrofi a rhoi débuts fydd blaenoriaeth Giggsy yn y ddwy gêm i ddod. Dyma ei her wirioneddol gynta fel hyfforddwr: gorfod mynd oddi cartref i Croatia, tîm gyrhaeddodd ffeinal Cwpan y Byd, a chael canlyniad. A dau ddiwrnod wedyn, gorfod mynd oddi cartref at dîm gurodd Croatia, a chael canlyniad arall. Talcen caled.

Dw i’n weddol hyderus erbyn hyn bod Giggsy’n gwbod shwt ‘ma anfon tîm allan i chware adre’n weddol agored.  Ond, a yw e’n gwbod shwt ‘ma greindio mas canlyniad yn erbyn yr ods oddi cartre?

Ma hynny 1) yn Gymraeg gwarthus gen- nyf i a 2) yn gwestiwn hollol wahanol.

Dyw’r arwyddion ddim yn grêt – yn ein gêm ddiwethaf oddi cartref, fe gollon ni yn erbyn Albania, cyn hynny, fe gafon ni dipyn o wers yn Denmarc. Mae ’na lygedyn o obaith wrth gwrs – gobaith y bydd Croatia, ar ôl eu llwyddiant yng Nghwpan y Byd, yn dioddef y math o hangover y dioddefon ni ar ôl Ewro 2016. Ma’ nhw eisoes wedi colli i Hwngari, fel wedes i, a straffaglu’n ofnadw i guro Aserbaijan. Gobaith arall yw’n talent greadigol ni – ma ’da ni chwaraewyr all fanteisio ar gyfleoedd (ac mi fydd rhaid iddyn nhw, achos mi fydd cyfleoedd yn bethe prin mas ’na).

Gyda’r ail gêm, wel, ma’n anodd gwbod beth i ddisgwyl gan Hwngari.

Do, fe grëon nhw sioc enfawr wrth guro Croatia, ond ro’dd hynny ar ôl colli yn erbyn Slofacia, odd ddim yn edrych yn grêt yn ein herbyn ni yng Nghaerdydd.  Wrth fynd ymhellach yn ôl, anghyson yw eu fform: fe gollon nhw i’r Ffindir, fe guron nhw’r Ffindir, fe guron nhw Groeg, fe gollon nhw i Groeg. Petai’r gêm adre, bydden i’n disgwyl rhoi crasfa iddyn nhw, a bod yn onest, ond dyw hi ddim, felly peryg fydde dishgwl gormod.

Y gwir yw, mae’n bosib inni ddod nôl yn waglaw o’r ddwy gêm.

Bydde hyn yn dipyn o ergyd, ac yn gwneud cymhwyso i’r Ewros yn dipyn o slog. Bydde un pwynt ddim yn grêt o ran y grŵp, ond a bod yn onest, bydde fe ddim yn warthus o ddwy gêm mor anodd ar ddiwedd tymor hir.

Mi fydda i’n dawnsio yn y stryd o gal 4 pwynt, ond dw i’n gweld hynny’n eithaf annhebygol (er mod i’n meddwl bo Koumas yn well na Zidane, dipyn o besimist ydw i am y tîm ei hun!). Bydden i’n fodlon iawn â thriphwynt ond, mewn gwirionedd, falle mai dwy gêm gyfartal fydde’n dda, oherwydd yr effaith ar y timau eraill (hynny yw, fyddan nhw heb gael triphwynt chwaith).

Ta waeth, os cewn ni rwbeth deche o’r ddwy gêm ’ma – dau bwynt neu fwy – a falle gweld un o gywion newydd Giggs yn sgorio eto – byddwn ni’n gwbod, wedyn, nid yn unig bo ’da ni dîm bach da, ond bod y tîm hwnnw mewn dwylo diogel.

Darllenwch yr erthygl lawn gan Garmon Ceiro yn Y Cymro mis Mehefin 2019, ar gael yn eich siopau lleol nawr.  Er mwyn cefnogi ymdrechion ein Cymry ni,

TANYSGRIFIWCH!  os gwelwch yn dda : DIOLCH

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau