Mae wyth o ysgolion Caerdydd wedi derbyn grant o £12,500 i ddathlu gyrfa Geraint Thomas a rôl allweddol clwb beicio y Maindy Flyers yn ei ddatblygiad. Mae’r grant yn rhan o gynllun ‘Cydweithio Creadigol’ Cyngor Celfyddydau Cymru a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu gwaith celf fydd yn cael ei osod o amgylch y trac – man cychwyn sawl pencampwr beicio – ar safle Canolfan Maendy.
Dywedodd Anthony Hayes, rheolwr Canolfan Maendy:
“Mae Canolfan Maendy yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect celf cyffrous yma, un fydd yn dathlu camp aruthrol ein harwr lleol Geraint Thomas. Bydd yn gyfle i blant a phobol ifanc ardal Cathays ddangos eu hedmygedd a’u cefnogaeth i daith Geraint, ac i ddathlu gwireddu’r breuddwydion a fagodd wrth gychwyn beicio gyda’r Maindy Flyers yn fachgen ifanc. Trwy’r celfyddydau, gall ein pobl ifanc ysbrydoli eraill i ddilyn yr un daith at lwyddiant.”
Fe fydd plant o Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Gynradd Albany, Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd Gatholig St. Josephs, Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica ac Ysgol Mynydd Bychan yn cydweithio gyda thrawstoriad o artistiaid, cerddorion a beirdd gyda’r bwriad o greu cofeb weledol barhaol o ran bwysig y Ganolfan yn hanes chwaraeon yng Nghymru.
Cefnogir y prosiect gan yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig a bydd yn cloi gyda Gŵyl Crys Melyn arbennig yng Nghanolfan Maendy ym mis Gorffennaf i gyd-fynd â Tour de France 2019.
Bydd yr Ŵyl yn cynnwys cyfraniadau cerddorol gan rai o’r ysgolion fu’n rhan o’r prosiect a bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio’n swyddogol yn ystod y digwyddiad.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.